Unwaith eto eleni bydd S4C yn ymweld â Gŵyl HSBC Jazz Aberhonddu.
Merched mewn Jazz fydd thema'r ŵyl eleni i ddathlu'r ffaith fod cyfraniad merched i'r byd Jazz yn fwy nag erioed ar hyn o bryd. Mi fydd un o ferched mwyaf blaenllaw'r Byd Jazz, Jessica Williams, yn perfformio yn yr ŵyl eleni.
Cyflwynwyr
Pwy sy'n cyflwyno'r arlwy ar S4C
Cystadleuaeth
Eich cyfle i ennill cryno ddisgiau gan Curtis Stigers, Dafydd Dafis a CF47
Bydd nifer o ferched dawnus yn ymuno â hwyl yr ŵyl eleni gan gynnwys pianydd ifanc o Siapan, Hiromi a'r delynores o Gymru Catrin Finch.
Yn ogystal, bydd rhai o fawrion eraill y byd Jazz hefyd i'w gweld ar rhaglenni S4C o'r ŵyl. Bydd Jools Holland a Curtis Stigers a rhai o artistiaid mwyaf talentog Cymru megis y chwaraewr sacsoffon, Osian Roberts a'r trombonydd, Gareth Roberts yn cymryd rhan.

