Neidio at y cynnwys

S4C

HSBC Jazz Aberhonddu 2008 - Perfformwyr

Joan Armatrading

Joan Armatrading

Mae'r gantores enwog Joan Armatrading yn perfformio am y tro cyntaf yn yr Ŵyl eleni.

Daeth i'r amlwg yn gyntaf yn y '70au gyda'i sengl Love and Affection. Er bod geiriau ei chaneuon wastad yn delio gyda themâu pwerus fel cariad ac obsesiwn, dros y blynyddoedd mae hi wedi arbrofi gydag arddulliau cerddorol gwahanol o roc i reggae i gerddoriaeth gwerin. Erbyn hyn mae'n cael ei hadnabod am gyfansoddi a chanu'r 'blues', a hefyd am ei dawn chwarae'r gitâr 'blues'.

Mae ei albwm diweddar, Into the Blues, wedi ennill canmoliaeth uchel ac mi aeth yn syth i Rif Un yn y 'Billboard Blues Chart' yn yr U.D.A. Hi ydy'r gantores fenywaidd Brydeinig cyntaf i gyflawni'r gamp yma erioed.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales