Neidio at y cynnwys

S4C

HSBC Jazz Aberhonddu 2008 - Perfformwyr

Lee Konitz

Lee Konitz

Lee Konitz yw un o'r chwaraewyr sacsoffon alto mwyaf dylanwadol yn hanes datblygiad jazz modern.

Dechreuodd ei yrfa 'nôl yn y '40au gyda band Teddy Powell, cyn cyd-weithio gyda Miles Davies a cherddorfa Stan Kenton.

Fel nifer o chwaraewyr jazz eraill y cyfnod, roedd dylanwad yr enwog Charlie Parker yn amlwg iawn yng ngwaith Konitz yn y blynyddoedd cynnar. Ond yn hytrach na pharhau i efelychu steil y chwaraewr sacsoffon byd-enwog, mae Konitz wedi datblygu ei sain unigryw ei hun.

Ar droad y '50au daeth y cyfle i gyd-weithio â Miles Davies ar y record Birth of the Cool. Fe chwaraeodd Konitz rhan flaenllaw yn natblygiad y dull 'cool' yma o chwarae. Mae ei waith yn enghraifft glir o'r arddull cryno ac esmwyth yma o chwarae gyda thrywydd melodaidd eglur.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales