Yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel cyflwynydd y Sioe Gelf, mae Lisa hefyd wrth ei bodd yn darganfod pob math o gerddoriaeth newydd ar ei rhaglen radio i C2 ar Radio Cymru.
Er bod ganddi ddiddordeb mawr ym myd cerddoriaeth, hwn fydd ymweliad cyntaf Lisa â'r Gŵyl HSBC Jazz Aberhonddu. "Dwi'n edrych ymlaen at benwythnos gorlawn o gerddoriaeth! Mae ffrindiau sy wedi ymweld â’r ŵyl yn sôn o hyd bod yna awyrgylch arbennig iawn yn perthyn i Ŵyl Aberhonddu," meddai Lisa.
Ac uchafbwynt y rhaglen i Lisa eleni? "Joan Armatrading, heb os! Mae gen i barch enfawr tuag ati fel cantores a chyfansoddwraig. Hefyd Cleo Laine a John Dankworth, mi weles i nhw'n perfformio ar raglen Jools Holland. Mae'n anodd credu bod nhw'n wythdeg oed ac yn dal i berfformio, a hefyd yn edrych mor glamorous!"
O gofio nad yw hi'n gyfarwydd iawn â byd jazz eto, bwriad Lisa yn Aberhonddu yw dysgu mwy am y gerddoriaeth a'r artistiaid a thrwy hynny rannu ei phrofiadau cyntaf o'r Ŵyl gyda’r gynulleidfa.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales