Mae'r sacsoffonydd chwedlonol Maceo Parker yn dychwelyd i Aberhonddu eto eleni.
Fe fydd yn cloi dathliadau pen-blwydd yr Ŵyl mewn parti mawreddog ar y nos Sul.
Mae Maceo Parker yn un o fawrion y byd ffync. Fe berfformiodd fel unawdydd ar rai o recordiau mwyaf adnabyddus James Brown yn y '60au, profiad a ddisgrifiodd fel cyfnod mewn prifysgol gerddorol.
Ers hynny, mae Parker wedi cynnal gyrfa fel unawdydd llwyddiannus a phrysur iawn, gan berfformio tua 250 o gyngherddau bob blwyddyn. Mae e hefyd wedi cydweithio gyda nifer o gerddorion mwyaf dylanwadol y sin roc/pop gan gynnwys Ray Charles, James Taylor, De La Soul a'r Red Hot Chili Peppers.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales