Neidio at y cynnwys

S4C

Gwreiddiau

Priodolir gwreiddiau jazz i ddiwedd y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg yn America. I leddfu poen eu caethiwed ac i liniaru baich eu gorchwyl, byddai’r caethweision a gafodd eu cludo o’r Affrig i America yn canu mewn modd lleddf a dolefus. Oherwydd y rhagfarnau hiliol oedd yn bodoli tuag at bobol dduon, bu rhaid aros tan yr ugeinfed ganrif cyn i gerddorion gwyn eu croen fynd ati i addasu nodweddion y canu hyn, dim ond bryd hynny wnaeth jazz fywiogi mewn difrif. Ar ddiwedd y 1930au fe arweiniodd Benny Goodman gerddorion o’r ddwy dras mewn cyngerdd ar y cyd yn Carnegie Hall yn Efrog Newydd.

Mae’n gydnabyddedig bellach mai yn New Orleans y cychwynnodd jazz cyn lledu wedyn i Chicago, Kansas, Efrog Newydd ac yna i ddinasoedd arfordir Gorllewinol America. Ers hynny mae jazz wedi parhau i ddatblygu, mewn amser esblygodd i gynnwys Ragtime; New Orleans neu Dixieland; Swing; Bop neu BeBop; Cool Jazz, Jazz; Neo-Bop, Hard-bop; Third Stream; Mainstream Modern; Latin-Jazz; Jazz-Rock ac Avant-Garde neu Free Jazz.

Wedi ei gymryd o’r Columbia Electronic Encyclopaedia © 2005 Columbia University

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales