Dyma fydd ymweliad cyntaf Rhodri Owen â Gŵyl HSBC Jazz Aberhonddu.
Mae'r cyflwynydd o Fro Gŵyr yn edrych ymlaen at brofi'r awyrgylch unigryw.
"Dwi'n gyfarwydd iawn â bron pob gŵyl arall yng Nghymru, ond dwi'n siŵr y bydd Gŵyl Aberhonddu yn hollol wahanol ac yn lot llai traddodiadol falle na'r Eisteddfod neu'r Sioe Frenhinol. Mae'n anhygoel, mae yna gymaint o ddiddordeb yn yr Ŵyl yma. Mae'n apelio at drawstoriad eang iawn o bobl."
Mae pob math o gerddoriaeth yn apelio at Rhodri, popeth o opera i gerddoriaeth fwy cyfoes a bandiau newydd. Mae'n gobeithio y bydd ymweld â Gŵyl Aberhonddu yn gyfle i ddysgu mwy am jazz a hefyd am yr artistiaid llai adnabyddus fydd yn perfformio yno.
Mae Rhodri newydd ailgydio yn y piano ac yn gobeithio dysgu gan rai o'r meistri fel Jools Holland, Julian Joseph a Gwilym Simcock. "Dwi wedi ailddechrau canu'r piano yn ddiweddar, fe fyddai'n ymarfer am ryw awr bob bore dydd Sul, dwi'n gwella'n araf ond mae angen llawer mwy o ymarfer arna i!"
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales