Neidio at y cynnwys

S4C

HSBC Jazz Aberhonddu 2008 - Perfformwyr

Roberta Gamberini

Roberta Gamberini

"Gamberini is a true successor to Ella Fitzgerald, Sarah Vaughan, and Carmen McRae." Boston Globe

Mae'r gantores o'r Eidal yn cael ei disgrifio'n aml fel un o dalentau mwyaf cyffrous y sîn jazz.

Erbyn iddi ddathlu ei phen-blwydd yn ddeunaw oed, roedd Roberta Gambarini yn perfformio mewn clybiau jazz ar draws gogledd yr Eidal. Ymhen dim fe symudodd i America i ddilyn gyrfa fel cantores broffesiynol. Ers hynny mae wedi perfformio ar draws y byd gyda nifer o enwau mawr y byd jazz, yn eu plith Michael Brecker, Herbie Hancock, Slide Hampton, Jimmy Heath, and Toots Thielemans.

Casgliad o'i hoff ganeuon sydd ar ei albwm diweddara You are there. Fe gafodd y cyfle i'w recordio yn Efrog Newydd gydag un o'i harwyr, y pianydd enwog Hank Jones.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales