Bydd y mezzo soprano Gymreig Katherine Jenkins yn dychwelyd i'w milltir sgwâr mewn cyngerdd arbennig o Neuadd y Brangwyn, Abertawe, a ddarlledir yn egscliwsif ar S4C.
Yn ystod y cyngerdd bydd Katherine yn canu'r clasur Cymraeg Ar Hyd y Nos, yn ogystal â chaneuon o'r albwm newydd, gan gynnwys La Vie En Rose a The Angel.
"Dyma fy hoff albwm gan 'mod i wedi cael ei gwneud hi gyda David Foster, y cynhyrchydd adnabyddus tu ôl i drac sain ffilm The Bodyguard," meddai Katherine.
Ar ôl iddi orffen cymal cyntaf y daith hyrwyddo ym Mhrydain, bydd y gantores o Gastell-nedd yn hedfan i Awstralia ac Asia cyn dychwelyd i dreulio'r Nadolig yn ei milltir sgwâr. Yn y flwyddyn newydd, bydd hi'n croesi Môr yr Iwerydd i lansio Believe yn yr Unol Daleithiau.
Er i Katherine berfformio ar S4C yn y gorffennol, dyma fydd ei chyngerdd cyntaf ar gyfer y sianel.
Meddai, "Ro'n i wrth fy modd yn gwneud y rhaglenni eraill i S4C ac rwy'n credu bydd y cyngerdd yma yn un arbennig iawn."
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales