Y Llyfrgell...
O fewn muriau cadarn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae llyfrau a llawysgrifau'r oesoedd yn cadw cyfrinachau ein cenedl yn ddiogel. Mae hud a lledrith ein llenyddiaeth rhwng y dalennau sy'n trigo yng nghrombil yr adeilad ac yn sibrwd hanes ein diwylliant wrth unrhyw un sy'n gwrando. Camwch gyda ni i fyd arall, lle mae llyfrau, lluniau, darnau o femrwn a chroen dafad yn cyd-fyw â datblygiadau technolegol diweddaraf y ganrif hon. Dyma'ch cyfle chi i dwrio i hanes yr adeilad mawreddog hwn.
Cyfres newydd sbon wedi ei chyflwyno gan y Prifardd Mererid Hopwood yw hon, ym mlwyddyn dathlu canmlwyddiant y sefydliad unigryw hwn. Mae Mererid yn ein tywys trwy ddrysau haearn y Llyfrgell dros drothwy cartref calon diwylliant Cymru.
Mererid Hopwood...
Dyma'r gyfres deledu gyntaf i Mererid ei chyflwyno, ac oherwydd ei chariad at lyfrau, roedd yn gyfle rhy dda i'w golli, yn ôl Mererid ei hun. Yn ogystal â mwynhau gweithio gyda'r tîm cynhyrchu, roedd hi wrth ei bodd yn gweithio gyda staff y Llyfrgell, a fu'n garedig tu hwnt, meddai hi. Y ddau beth a'i cyffyrddodd ddyfnaf oedd cyffwrdd yn Llyfr Du Caerfyrddin – nid copi, ond y llyfr ei hun – a gweld llythyr Hedd Wyn yn gofyn tybed a gyrhaeddodd ei gerdd ar gyfer y Gadair mewn da bryd, a oedd yn brofiad emosiynol iawn.
Mae gwreiddiau teulu Mererid yn ddwfn yn nhir Sir Benfro, a chafodd ei magu yng Nghaerdydd. Cafodd addysg yn Ysgol Gyfun Llanhari, Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg Prifysgol Llundain, lle derbyniodd ei doethuriaeth. Mae Mererid yn byw yng Nghaerfyrddin gyda'i gŵr a'u tri o blant. Mae'r teulu'n berchen ar babell sy'n ddigon mawr i bawb, ac yn eu hamser hamdden, maen nhw'n mwynhau crwydro yng Nghymru a chysgu o dan y cynfas. Yn wahanol i garafan, meddai Mererid, y brif fantais ydy nad oes rhaid cadw pabell yn daclus!
Yn 2001, Mererid oedd y fenyw gyntaf erioed i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac aeth gamp ymhellach trwy gipio'r Goron hefyd yn 2003. Gwahoddwyd Mererid i rôl Bardd Plant Cymru yn 2005-6, gan ymweld â nifer o ysgolion yn ogystal â chynnal gweithdai e-bost gyda beirdd y dyfodol. Mae hi'n gweithio fel darlithydd Almaeneg a Chymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac athrawes Sbaeneg yn Ysgol Bro Myrddin.