Rhaglen 1
Hen genedl, cof hir;
Hen gof, y gwir...
Hen iaith, anadl fer,
Hen anadl, her.
Gerallt Lloyd Owen (trwy ganiatâd caredig)
Llyfr Du Caerfyrddin ydy'r llawysgrif Gymraeg hynaf yn y Llyfrgell Genedlaethol. Er bod papyrus yn byw yng nghelloedd y Llyfrgell sy'n hŷn nag e, mae'r Llyfr Du yn ddatganiad o hunaniaeth y Cymry. Croen dafad yw'r tudalennau, ac mae'n bleser gweld Mererid yn ei menig gwynion yn trafod y dalennau hynafol. Mi ddaw adeilad godidog y Llyfrgell yn fyw dros y gyfres, a dyma'n cyflwyniad ni i'r muriau tal, y nenfydau uchel, y darluniau, ac wrth gwrs, y millitroedd o silffoedd llyfrau sy'n creu curiad calon y lle hwn.
Daeth nifer o eitemau pwysig y Llyfrgell o gasgliadau preifat pobl megys Robert Vaughan a theulu Peniarth. Syr John Williams, meddyg preifat y frenhines Victoria, a chasglwr llyfrau a llawysgrifau, a sicrhaodd siarter frenhinol i'r Llyfrgell yn 1907.
Mae'r llawysgrifau a'r llyfrau yma'n ddigon o ryfeddod – cewch weld geiriau ysgrifenedig Iolo Morgannwg a Dafydd ap Gwilym. Er eu bod yn gyfarwydd i lawer ohonon ni, fel awduron, mae gweld eu gwaith yn ei ffurf wreiddiol yn dod â gwefr hanes yn fyw, heb ei bylu gan dreigl y canrifoedd.