Rhaglen 2
Derfydd aur a derfydd arian,
Derfydd melfed, derfydd sidan.
Derfydd pob dilledyn helaeth,
Eto er hyn ni dderfydd hiraeth.
Traddodiadol
Yn oes yr e-bost a'r neges destun, mae'n amserol i ni gofio pa mor bwysig y bu llythyron dros y canrifoedd. Mae absenoldeb yn magu hiraeth, ac i leddfu hiraeth, mae rhoi pin ar bapur yn fodd i fynegi emosiwn o bob math, ac mae hon yn rhaglen i gyffwrdd â'r galon.
Y llythyr Cymraeg cynharaf ydy llythyr Drudwy Branwen o Lyfr Gwyn Rhydderch, sy'n trigo yn y Llyfrgell gyda miloedd o lythyron eraill. Mae geiriau mawrion y genedl yma – 9,000 o lythyron gan O.M. Edwards at ei wraig, Elin, a dim ond un ganddi hi – ond mae'n un pwerus. Mae gohebiaeth Kate Roberts at ei brawd, Deio yma, ac wrth gwrs, y casgliad enwog o lythyron rhwng Kate a Saunders Lewis. Ac i godi gwefr, ar gefn llythyr gan Ann Griffiths, mae'r unig gopi o un o'i hemynau yn ei llawysgrifen hi er mai Rwth, ei morwyn, oedd yn cofnodi'r emynau fel arfer.
Mae hiraeth yn trigo hefyd yn Archif Sgrin a Sain y Llyfrgell, lle mae recordiadau Adelina Patti yn ei chartref, Castell Craig y Nos, yn grafog o gryf hyd yn oed heddiw. Yn y cyfnod, daeth ei llais hi â dagrau i lygaid Arlywydd America, hyd yn oed.