Neidio at y cynnwys

S4C

Rhaglen 3

'Yn y llyfr hwn…'

Mae’r Cymry yn ddarllenwyr brwd, yn ôl tystiolaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, lle cafodd 20,000 o lyfrau eu gwerthu yn 2006. Mae’r rhaglen hon yn cynnig golwg ar hanes darllen yng Nghymru. Mae ‘Computus fragment’ yn deillio o’r flwyddyn 920 O.C., tra bod Brad y Llyfrau Gleision yn perthyn i Oes Fictoria – dyna stori frawychus. Ar un cyfnod bu’r almanac yn ddrych i’r oes, ac mewn cyfnod diweddarach datblygodd y cartwn, oedd yn rhan bwysig o rifynnau Cymru’r Plant.

A wyddoch chi fod rhagfarn yn erbyn llythrennedd yn gyffredin yma yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Y farn oedd ei fod yn wastraff amser, ac y buasai dysgu pobl i ddarllen yn chwalu cymunedau trwy roi arf dysg i drigolion a allai edrych y tu hwnt i'w milltir sgwâr am fywyd amgen gyda gormod o'r wybodaeth anghywir. Diolch i'r SPCK ac ysgolion teithiol Gruffudd Jones Llanddowror, newidiodd pethau'n raddol.

Mae cyngor cylchrawn Y Gymraes, o 1850, yn agoriad llygad i ferched heddiw, ond mae hanes Cranogwen yn un i godi'r galon! Braint pob gwybodaeth.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales