Neidio at y cynnwys

S4C

Rhaglen 4

Ambell un o fyw yn gynnil
O ddwy ddafad aeth yn ddwyfil.

Traddodiadol

Cwpled porthmon o raglen sy'n edrych ar deithio a llyfrau taith yng Nghymru ydy hwn. Er mwyn bod yn gymwys i fod yn borthmon, roedd yn rhaid i chi fod dros 30 oed, yn briod, ac yn berchen ar dŷ cyn hyd yn oed cael trwydded! Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, daeth cymaint o arian i mewn i Gymru trwy borthmona nes sefydlu Banc yr Eidion Du yn 1799 yn Llanymddyfri, banc sy'n fwy adnabyddus fel banc y ceffyl du heddiw. Mae sieciau o'r cyfnod i'w gweld yn y Llyfrgell, ac mae'n syndod cyn lleied maen nhw wedi newid.

Y teithiwr adnabyddus cyntaf a gofnododd ei gyfnod yng Nghymru oedd Gerallt Gymro, a oedd o linach Cymreig, ac yn ddyn oedd yn deall ei gyfnod. Yn blentyn ar draeth Maenor Bur, adeiladai ei eglwysi cadeiriol a mynachlogydd yn y tywod yn hytrach na chestyll fel y plant eraill.

Roedd Cymry ymhlith y ffotograffwyr cynharaf hefyd, gan gynnwys John Dilwyn Llywelyn o Benllergaer, a'i wraig Emma, a arbrofodd yn helaeth gyda thechnegau ffotograffiaeth, a chreu gwaith arloesol yn eu cyfnod. Roedd Emma yn gyfnither i Henry Fox Talbot, tad ffotograffiaeth ym Mhrydain. A dewch am dro i fro TH Parry-Williams, gweld lluniau o’r daith a chlywed y bardd yn adrodd y gerdd ‘Hon’, yn binacl ar y cyfan. A cheisio gwneud hynny heb lwmp yn eich gwddw.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales