Rhaglen 5
"Hysbys y dengys dyn o ba radd y bo'i wreiddyn."
Tudur Aled
Mae'r rhaglen hon yn edrych ar goeden deuluol y genedl, gan ddechrau gyda Cunedda Fawr, ein tad ni oll, a hen dad-cu'r genedl, Hywel Dda. Mae'n dyled ni'n fawr i gasglwyr megis Robert Vaughan a theulu Peniarth, lle tarddodd copi prin o Gyfraith Hywel, dyddiedig 1230. Er nad yw'r copi o safon dogfennau Ewropeaidd y cyfnod, mae ynddo luniau lliw arbennig o swyddogion y brenin, a dwy goeden ddeiagramatig sy'n dangos sut i docio a thyfu. Difyr iawn ydy clywed Peter Lord yn esbonio lle cafodd ei ysbrydoliaeth i ddylunio'r cerddi yng Nghanolfan Hywel Dda yn Hendygwyn ar Daf, sy'n werth eu gweld.
Gyda hel achau teuluol yn ffasiynol iawn dyddiau hyn, daeth 3,000 o bobl i chwilio am hanes eu coed teuluol mewn blwyddyn, yn enwedig o America. I wneud hyn yn effeithiol, gallwch ddefnyddio atgofion aelodau hynaf y teulu ac unrhyw ddogfennau y gallwch gael hyd iddyn nhw: tystysgrifau, ewyllysiau, cofrestri plwyf a.y.b. Mae gan y Llyfrgell 1.5 miliwn o ddogfennau wedi eu digido i alluogi pobl i chwilio ar y we os nad ydynt yn gallu dod i'r Llyfrgell. Cawn hefyd hanes Sieffre o Fynwy, Llyfr Du Basing, ac Arglwyddes Llanofer, a oedd yn sylweddoli pwysigrwydd cofnodi a sicrhau parhad i'n traddodiadau ni fel Cymry.