Rhaglen 6
Mae'r Llyfrgell yn seithfed nef i unrhyw un sy'n caru geiriau, ac yn y rhaglen hon, cawn weld ystod eang o'r trysorau sydd yma i'w canfod. Mae'r ateb i gwestiynau fil yn y Llyfrgell ac yn y rhaglen hon. Yn eu plith:
Pwy oedd Ysbaddaden Bencawr?
Sut y cyrhaeddod araith enwog 'Tynged yr Iaith' Saunders Lewis chwaraewr MP3 cyfoes?
Sut y daeth cudyn o wallt y pêr ganiedydd ei hun, William Williams Pantycelyn o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg i orffwys yn y Llyfrgell?
A phwy ar y ddaear oedd Rhydderch ap Ieuan Llwyd ap Ieuan ap Gruffudd?
Yma mae cartref cof ein cenedl – canu Aneurin a Thaliesin, chwedlau'r Oesoedd Canol, copi hynaf Pedair Cainc y Mabinogi, Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Gwyn Rhydderch, cofnodion mynachod Abaty Ystrad Fflur, a barddoniaeth a rhyddiaith ein beirdd ac awduron dawnus. Mae dathlu canmlwyddiant y Llyfrgell yn rhoi cyfle i ni gyd werthfawrogi o'r newydd fod y fath adnodd ysblennydd gyda ni mewn man sydd mor ganolog. Os nad ydych chi wedi bod, ewch i weld arddangosfeydd y canmlwyddiant os gallwch chi, ac os ydych chi wedi bod o'r blaen, mae 'na drysor na welsoch chi'r tro diwethaf yno yn eich disgwyl, bid siŵr!