Blog Mwy

Nol i'r chwaraeon!
Mae di bod yn sbel ers i fi neud blog yn y ffordd hen ffasiwn, sef ysgrifennu, felly i fi wedi penderfynu gwneud un! I fi wedi bod yn sâl iawn gyda’r ffliw... dydd ar ôl dydd yn y gwely, wedi lapio fyny yn chwysu y cyfan allan... Doedd e ddim yn neis o gwbl, ond i fi’n well nawr! Iei!

Fi wedi bod yn gwylio lot o chwaraeon yn ddiweddar, gyda’r rygbi a’r pêl droed ymlaen bob penwythnos, a neithiwr a nos Fawrth oedd nosweithiau y Champions League. Man Utd drwyddo i’r rownd nesa ac ar y ffordd i ennill y bencampwriaeth eto – wel gobeithio!

A sôn am bel droed fydd Owain Tudur Jones yn y stiwdio wythnos nesa – edrych ymlaen i gael e yn y stiwdio er mwyn i ni gael trafod pêl droed trwy gydol y pnawn... ha, sori Alex!

Ma Cymru yn chwarae Awstralia Dydd Sadwrn, a ma da fi docyn i’r gem, felly cadwch lygad allan amdanai. Os i chi’n mynd, be am i chi adael i ni wybod ar neges-fwrdd Mwy?

Wel, dyna ni am y tro, gobeithio bo chi gyd yn bihafio a welai chi’n fuan!

Gwe-hei! Pwllheli
O na! Nid o Bwllheli, ond o Garnfadryn! (Pentref bach tu FAS i Bwllheli!)

Co' nhw, Elliw, Non Heledd a Lois!

Da iawn chi ferched, wnaetho'ch chi ennill lot o wobrau, gobeithio bydd Elliw yn rhannu... ond sai'n credu, mae hi'n dishgwyl yn ddrwg ;-)

*Sniff* Fi'n sal!
Ych, mae gen i annwyd afiach - ond dwi nôl nawr! Dwi wedi dwli ar fy anrheg newydd....

<object width="274" height="185"><param name="movie" value="http://plant.s4c.co.uk/mwy/static/swf/mini_player.swf?db_id=559&text_colour=12325A&bg_colour=00A8CC&language=cy"></param><param name="wmode" value="transparent"></param><embed src="http://plant.s4c.co.uk/mwy/static/swf/mini_player.swf?db_id=559&text_colour=12325A&bg_colour=00A8CC&language=cy" type="application/x-shockwave-flash" wmode="transparent" width="274" height="185"></embed></object>

Wel, dewch mlaen - fi wedi bod yn sal, fi'n cael ymddwyn ychydig yn od, ok?! Mae'r 'earpiece newydd' YN ddiddorol iawn!

Gwe-hei! Criw Llwyncelyn
Shw'mai mawr i 'gwe-heiwyr' gwych dydd Mawrth - Cole, Cameron, Iestyn a Rhys o Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn!

Mae'r bois yn joio Rygbi, felly lwcus eu bod nhw wedi ennill yr holl nwyddau Rygbi yn y gystadleuaeth ondyfe?!

Gwe-hei!
Dyma nhw - y Gwe-hei-wyr wythnos yma!

Elis, Beca, Dafydd a Bethan o'r Eglwys Newydd. Mae nhw wedi gweithio'n galed iawn iawn iawn ar y posteri 'na... trueni mai gyda ni yn y stiwdio o'dd Gethin o'ndyfe?! :-p

Sgiliau Ger?
O'n i'n siarad gyda'r gwe-gam bach wedi i ni ddiwedd ffilmo neithiwr, dwi'n dechrau dysgu shwt i ddefnyddio'r camera yn araf bach...

<object width="274" height="185"><param name="movie" value="http://plant.s4c.co.uk/mwy/static/swf/mini_player.swf?db_id=532&text_colour=12325A&bg_colour=00A8CC&language=cy"></param><param name="wmode" value="transparent"></param><embed src="http://plant.s4c.co.uk/mwy/static/swf/mini_player.swf?db_id=532&text_colour=12325A&bg_colour=00A8CC&language=cy" type="application/x-shockwave-flash" wmode="transparent" width="274" height="185"></embed></object>

... ond o'n i DAL yn trio chware'r gêm am orie wedyn!

<object width="274" height="185"><param name="movie" value="http://plant.s4c.co.uk/mwy/static/swf/mini_player.swf?db_id=533&text_colour=12325A&bg_colour=00A8CC&language=cy"></param><param name="wmode" value="transparent"></param><embed src="http://plant.s4c.co.uk/mwy/static/swf/mini_player.swf?db_id=533&text_colour=12325A&bg_colour=00A8CC&language=cy" type="application/x-shockwave-flash" wmode="transparent" width="274" height="185"></embed></object>

Fi'n credu bod colled arna'i - o'n i methu mynd gatre heb ddiwedd e!

Blog fideo cyntaf Ger!
Fi wedi bod yn yma yn ymarfer gyda gwegam newydd Planed Plant - ond mae'r gliniadur (laptop!) bach bach wedi bod chydig o waith caled...

Ond ge's i dro arall arno...

A ni nawr yn ffrindiau!

<object width="274" height="185"><param name="movie" value="http://plant.s4c.co.uk/mwy/static/swf/mini_player.swf?db_id=516&text_colour=12325A&bg_colour=00A8CC&language=cy"></param><param name="wmode" value="transparent"></param><embed src="http://plant.s4c.co.uk/mwy/static/swf/mini_player.swf?db_id=516&text_colour=12325A&bg_colour=00A8CC&language=cy" type="application/x-shockwave-flash" wmode="transparent" width="274" height="185"></embed></object>

Dyma'r tro cyntaf i Alex a fi gael tro arno, mae lot da ni i ddysgu!

Gwe-hei-wyr Caerfyrddin
Dyma nhw, Steffan, Dylan, Hannah a Jessica - sêr y Gwê-gam wythnos yma - on dy'n nhw'n edrych yn bert yn eu dillad Gwêd y Gwir?!

Mwa ha hah!
MWHA HA HA HA HA!! Gobeithio bo chi gyd wedi mwynhau wythnos Calan Gaeaf. Gath Alex a finne lot fawr o hwyl wedi gwisgo lan fel Mr a Mrs Draciwla! A gobeithio fod chi di mwynhau yr holl ddŵr wrth i ni ddowcio afalau.

Llongyfarchiadau i bawb nath ennill gwobrau heddi!

Gobeithio bo chi gyd wedi bod yn hel losin a arian ar nos Wener hefyd, nath neb alw yn fy nhŷ i felly yn anffodus nes i fwyta yr holl losin. Iei!!

Ond penwythnos grêt yn gyffredinol. Noson tan Gwyllt sydd nesa, a cofiwch ma hi’n ddiwrnod Cenedlaethol y Frechdan heddi. Felly brechdanau amdani drwy’r dydd :-D

PENCAMPWYR!
Fel i chi gyd yn gwybod, fi’n chwarae Pêl Droed bob nos Lun, ac nos Lun yma mi nathon ni ennill y Gynghrair! O do! Ni yw y PENCAMPWYR... IEI! Mae rhaid chwarae bob tîm 3 gwaith ac yna, wel, dyna ddiwedd y tymor. Felly, gyda 3 gem yn weddill, ni yw y Pencampwyr ac i ni wedi ennill 11 gem allan o 12!

Ni wedi ennill y gynghrair yn hawdd. Yn rhy hawdd os rywbeth. I ni’n symud lan i’r gynghrair nesa nawr. Edrych ymlaen i guro nhw hefyd. Woooo!

Dim ond gobeithio neith Man Utd ddilyn ein esiampl ni nawr. Pob Lwc i nhw heno yn erbyn  West Ham

A DYMA Y PRAWF, ein bod ni wedi ennill, OW IE! (Ni yw Meladonna’s gyda llaw – peidiwch gofyn pam, stori hir...!)

Ger ar Goll
Ges i drip bach yn y car penwythnos yma. I chi sydd gyda côf anhygoel, byddwch chi yn cofio bod Meleri wedi cael swydd yn cyflwyno rhaglen Werdd o’r enw Gobldigwyrdd, wel penwythnos yma es i i wylio nhw yn ffilmio er mwyn creu rhaglen Tu ôl y Llen i Planed Plant.  O'dd y rhaglen yn edrych fel lot o sbort ac o'dd gweld Mel yn wych. Yna, yn hytrach na mynd adre nos Sadwrn, es i adre gyda Meleri i’r ffarm. Ges i lot o hwyl. Ma ffarm Mel yn wych ac yn llawn anifeiliaid, ag yng nghanol y gwynt ar glaw a’r tywyllwch aetho' ni allan i ffermio. Sa'i di bod mor wlyb am sbel ond fel bysai Mel yn gwaed, JOIO!

Yna, bore Dydd Sul ar y ffordd adre oherwydd y glaw, o'dd na lifogydd ar y ffordd ag o'n i methu mynd drwyddo yn y car! A gan fy mod i di mynd i Tŷ Mel funud olaf, wnaeth batri fy ffon i farw ag dodd e ddim yn gweithio, felly do'n ni methu ffonio neb i ofyn am gyfarwyddiadau - aaa!

Ag o ni ar goll yng nghanol y Gorllewin gwyllt dim byd ond caeau gwyrdd o’n amgylch i a dim sôn am bobl. Ond ddes i i ben ryw ffordd ag i fi adre yn saff. FFIW!

Gwobrau diri i ennill yn TROI A RHOI YN GLOI heddi. Felly cofiwch i ffonio x

Trip Man U
Wel i fi nol mewn un darn. Es i lan i Fanceinion echddoe i wylio Man Utd yn chwarae Celtic!

Gêm wych a Utd yn ennill. A fi’n siwr bod pawb yn dweud yr un peth... "o'dd da fi seddi gwych"... Ond wir yr odd y seddi  YN wych!! O ni’n eistedd tua 20 sedd o’r cae ac reit yn ymyl ar cwrt cosbi. Odd y seddi hefyd yn agos at y twnnel felly o ni’n gallu gweld y chwaraewyr yn glir wrth iddyn nhw ddod allan o’r twnnel :-D

Nath Alex Ferguson gerdded heibio ni hefyd felly noson wych! Ond ma Manceinion yn le oer iawn. Peth da es i a cot! Falle dyna pam odd Ronaldo am adael yn yr haf. I fyw yn  yr Haul yn Sbaen.

Beth bynnag, ges i amser gwych ac i fi nol heddi i chwarae Be nesa. Sgwn i os eith y Playstation 3 heddi?!

Bwrw glaw...
Bwrw Glaw yn sobor iawn, dyna beth yw’r stori fan hyn yn Caerdydd ar hyn o bryd. I fi’n credy dyle nig yd, ac i fi’n meddwl pawb yng Nghymru godi lan bag, llenwi e gyda dillad a bob dim i ni’n hoff ohonno a symud i rywle poeth fel Jamaica? Haul tywod a lot lot o Fanta. Dyddie Da.

Sgwrs X factor ar y rhaglen heddi felly cofiwch i wylio i glywed barn Beirniad Planed lant Jay Worley. Welai chi am 4!

Be Nesa? Ennill Mwy!
IAAAAAAAAAAAAAAAAAAAHWWWWWWWWWW!!!

Playstation 3 arall wedi mynd heddi! Llongyfarchiade mawr i ti Hannah. Gobeithio neu di fwynhau dy wobr :-D

O IEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEE!

Penwythnos o bêl drioed Cymru
Haia! Ar hyn o bryd i chi gyd yn gweithio yn galed yn yr ysgol dwi’n siŵr, ond yn anffodus does dim amynedd neud dim arna i, felly dwi wedi penderfynu i ddod fan hyn i siarad am bel droed. Es i lawr i wylio y 2 gem bel droed dros y penwythnos.  Nos Wener y tîm dan 21, roedden nhw'n anlwcus iawn i golli o 3-2 ond  roedd cyflymdra Lloegr yn ormod i ni ar ddiwedd y dydd. Os i chi’n gofyn i fi, dyle nhw wedi gofyn i  fi chwarae a byddai bob dim yn iawn wedyn!! Yna, dydd Sadwrn es i i’r Stadiwm i wylo tîm cyntaf Cymru yn curo Lichtenstein, a cyn y gem o ni yn sefyll drws nesa i rheolwr tîm dan 21 Cymru ar y stryd sef Brian Flynn! O ni di meddwl cael gair gyda fe i ofyn os fedrai chwarae yn yr ail gêm, ond i fi’n rhy hen beth bynnag, felly nes i ddim ;-)

A sôn am yr ail gêm, pob lwc i Gymru nos Fawrth. Gobeithio bo chi di cael penwythnos da. Gadewch fi wybod be chi di bod yn neud trwy'r y neges fwrdd!

Tara am y tro!

Mae'r PS3 wedi mynd!
IAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAA HWWWWWWWWWWWWW!!

Da iawn ti Anest am ennill y Playstation 3. Fi mor hapus! Mwynha a cofio adael ni wbod pa geme ti’n brynu ar i gyfer e, a pwy ti’n mynd i alw draw i chwarae gyda ti.

Deintydd!
DEINTYDD, DEINTYDD, DEINTYDD! Ddoe ges i y fraint o fynd i weld y Deintydd. A ma raid i fi gyfadde, fi ddim yn credu odd en gwbod be odd en neud. Bron iddo fe rwygo fy ngheg i fewn i ddarne!  Yn chwifio ei declynne nol a mewn i fy ngheg heb unrhyw ots amdana fi. Ond mi nath e roi sbectol haul eitha trendi i fi wisgo tra fod e yn archwilio!

Ond yn anffodus ma raid i mi fynd nol i gael filling. Gormod o losin yn ol bob son. Felly nol a fi at y deintydd ddydd Iau nesa, felly os fydda i methu siarad a mod i’n driblan ddydd iau nesa i chi’n gwbod pam!

Cofiwch fod Be Nesa heddi. Playstation 3 i’w ennill. Cofiwch gystadlu!

Bore Llun...
Mae bore Dydd Llun yn waith caled. O’n i wedi blino yn racs bore ma, y cloc larwm yn canu ac o’n i ddim ishe gadael y gwely o gwbl. Ond nes i, ac o’dd e’n werth chweil. O’dd Jay Worley yn y stiwdio heddi yn rhoi ei farn ar ddeuddeg olaf yr X Factor a ni’n gobeithio i gael e nol i drafod yr X Factor yn y dyfodol agos.

I fi’n chwarae pel droed heno, gobeithio neith hi ddim bwrw glaw. Ond nawr bo fi di gofyn iddi beidio, y peth cynta neith hi yw bwrw pam i ni yn camu allan i’r cae!

Gobeithio bo chi gyd wedi cael penwythnos braf. Dyna ni am y tro, mwynhewch eich nosweth a welai chi fory.

Diwedd wythnos llawn dop
Wel am wythnos llawn dop: Jay Worley o’r X Factor, Elin Leyshon o Herio’r Ddraig, criw o henoed ac Emma Worthington...pob un wedi bod yn y stiwdio wythnos yma. WAW. A dwi wedi cael gymaint o hwyl yn eu cwmni nhw yn enwedig yn chwarae pel droed efo’r henoed ddydd Mercher. Doniol iawn. Ac roedd cael Emma Worthington yma ddoe i chwarae Be Nesa yn gymaint o hwyl. Cofiwch y bydd hi nol ddydd Iau nesa.

Wythnos yma hefyd fe fues i am drip i Brestatyn a Rhyl i ymweld ag ambell i ysgol. Trip llawn hwyl yn cyfarfod llawer ohonoch chi felly diolch i chi am y croeso.

Y penwythnos yma nawr a fi’n edrych mlaen am saib. Ond yn edrych ymlaen i’r X Factor nos Sadwrn. Cofiwch y bydd Jay Worley, cyn gystadleuydd ar y rhaglen yn dod fewn i’r stiwdio ddydd Llun i roi ei farn ar y cystadleuwyr.

Felly mwynhewch y penwythnos a welai chi ddydd Llun. TARA

Diolch Meleri!
Wel ma fe’n swyddogol, ma Meleri wedi mynd. Ma i desg a’i sedd hi yn wag gyferbyn a fi yn gwaith. Oooo, i fi’n teimlo fel crio eto. Na, ddim go iawn! Ond ma rhaid dweud i fi wedi cael blwyddyn wych yng nghwmni Mel . Fi’n siwr y byddwch chi, fel fi yn ei cholli hi yn fawr. Diolch yn fawr i’r rhai ohonoch chi sydd wedi gadael negeseuon ar y wefan, mi wnawn ni’n siwr ein bod ni’n pasio nhw mlaen i Mel. Bydd hi wrth ei bodd!

Odd rhaglen ddoe yn wych. Odd dim clem da hi ein bod ni’n mynd i ddangos clip ei atgofion gore hi nac am y gacen yn dod mewn ar y diwedd felly odd en wych gweld y sioc ar ei hwyneb hi. Cofiwch, os y’ch chi eisiau gweld y clip unwaith yn rhagor ma fe ar y wefan.

Ond peidiwch poeni, di Meleri ddim yn mynd yn bell. Bydd hi nol ar Planed Plant flwyddyn nesaf yn cyflwyno rhaglen newydd o’r enw GobldiGwyrdd. Felly edrych mlaen am hwnna!

Un peth sy ar ol i’w ddweud - diolch yn fawr iawn i Mel am y cwmni gwych a’r holl amseroedd da. Felly Meleri, DIOLCH xXx

- Mel y gorau a'r gwaetha!

Diwrnod mawr!!
Wel, am ddwrnod gwych heddi gyda seren yr X factor Jay Worley ar y sioe. Am gymeriad! Odd e’n lot fawr o hwyl a chofiwch ei wylio ar yr X Factor nos Sadwrn. Dwi’n croesi fy mysedd yn barod ac yn gobeithio y bydd yn cyrraedd y rownd nesaf.

Ond cofiwch dwrnod OLAF Mel yfory. Dwi’n andros o drist i’w gweld hi‘n mynd. Dwi wedi cael gymaint o hwyl gyda hi dros y flwyddyn dwethaf ac ma hi wedi dod yn ffrind agos i mi. Yn swyddogol, fyddai ar goll hebddi. Ond na ddigon o fi’n crio! Fory am bedwar nid yn unig mae’n sioe olaf Mel mae hefyd yn benblwydd arni! Gewn ni lot fawr o hwyl yn gweud tara iddi ac hefyd byddwn yn chwarae Be nesa, cyfle i chi ennill Playstation 3.

Felly cofiwch wylio fory er mwyn anfon eich negeseuon yn dweud tara i Mel a dymuno Penblwydd Hapus iddi

WAW. Dwrnod mawr fory, felly byddwch yno.

Gwestai Arbennig!
NEWYDDION CYFFROES... ma da ni westai arbennig yn y stiwdio fory! Rhywun o’r X Factor. Ie , cywir, rhywun o’r X Factor!! Ac hefyd, Dydd Iau fydd hi’n ddiwrnod mawr a chyffrous, gyda Be Nesa ac ambell i sypreis arall. I wybod y cyfan bydd raid i chi wylio!

Os oeddech chi'n gwylio ddoe, gobeithio wnaethoch chi fwynhau cystadleuaeth golff Mel a finne?? O ni’n gwylio y golff Cwpan Ryder drwy gydol y penwythnos, ac o'ni methu credu pa mor dda chwaraeodd y ddau dîm. Wythnos tawel wythnos yma i fi heblaw am hyna, ond mae Abertawe yn Chwarae Caerdydd heno ma... Edrych mlaen! Pwy waiff ennill? Fi’n credu bydd hi'n gêm gyfartal.

Welai chi am bedwar heddi tan hynny. HWYL!!

Cwpan Ewrop
Canol yr wythnos yn barod a gan bod y tymor Pel droed wedi ail ddechre, ma hynny yn golygu bod Cwpan Ewrop yn dechre hefyd. Mae Man utd yn chwarae Villareal heno - iee! Newn ni ddim son am ganlyniad Utd dros y penwythnos, lle wnaeth ryw dîm lwcus mewn coch ein curo ni. Felly symud ymlaen yn gloi...!

Ma grwp o’n ffrindie i yn dod draw heno i wylio’r gem felly Pizza, Pop Coch(gan bo fi’n cefnogi Man Utd) a Pel Droed amdani heno. Yn dyw Bywyd yn braf....Ydy ma fe’n GRET!

Dyma fi a'r papur wal ar gyfrifiadur swyddfa Planed Plant - pert ondywe?!

Ffonio gormod?!
Dydd Mawrth yn barod, a ges i benwythnos hyfryd. Ac i fod yn onest y rheswm am hynny oedd oherwydd nes i ddim byd o gwbl heblaw am wylio ffilm ar ôl ffilm ar ôl ffilm ar ôl ffilm...

Ac odd en wych! Ond newyddion trist nawr, nes i agor fy mhil ffon bore ma a ma fe’n ENFAWR. Sai'n gwbod sut, oherwydd sai'n siarad gymaint a hynny ydw i?????? Felly i fi’n anhapus iawn, ac yn amau bod rhywun wedi neud camgymeriad yn un o cwmniau ffon mwya y byd. Inspector Geraint amdani felly....!

Be Nesa? Cyflwynwyr newydd?!
Be Nesa heddi... Mae dau gyflwynydd "gwahanol" gwych a hollol (g)wallgo yn cyflwyno heddi... pwy yw'r bobl anhygoel yma tybed?!

Gwnewch yn siwr bo chi'n gwylio - mae PLAYSTATION 3 yn wobr i'r enillydd lwcus cofiwch!

Gôôôôôôôôôôôôôôl
I chi sydd ddim yn gwybod ma Nos Lun yn meddwl pêl-droed. A doedd neithiwr ddim gwahanol.  Ni erbyn hyn, yn ein cynghrair 5 bob ochr, wedi ennill ein 3 gem cyntaf. Neithiwr chwaraeon ni tîm  a oedd  yn llawn o’n ffrindiau ysgol! O'dd e fel Man Utd yn wynebu Lerpwl. neu Barcelona yn herio Real Madrid. A neithiwr aeth y cyfeillgarwch trwy'r ffenestr!  Erbyn hanner amser roedd ein tîm ni ar y blaen o 4 gôl i 1. Ond cyn i ni droi rownd roedd hi’n 4 – 4. O'dd y taclo yn galed, y bêl yn symud o un pen i’r llall, cardiau melyn yn cael ei rhoi ac finnau wedi derbyn penelin i fy wyneb a gwaed ym mhob man. O'dd e'n wych!!

Ond gyda munudau yn weddill aeth ein prif sgoriwr ni heibio’r amddiffyn  a slotio’r bel heibio ei golwr nhw... 5 – 4. Ni ar y blaen ac yn siŵr o ennill, ac dyna yn union wnaethon ni oherwydd gyda cic olaf y gem fanteisio’n ni ar ddiffyg amddiffyn ein gwrthwynebwyr a sgorio ein chweched gol i ennill 6 – 4.

Ieeeeeeee!!!!

Nol yn swyddfa Planed Plant heddiw!
Wel ma fe’n swyddogol ma fy nghwylie haf i drosto, i fi nol yn y swyddfa nawr yn paratoi ar gyfer Dydd Llun pam i ni nol ar yr awyr ac ar eich sgrin eto. Iei!! Gobeithio bo chi yn mwynhau eich wythnos olaf ac wrth gwrs eich penwythnos olaf. A’th Mel a finnau i dre ddoe ac roedd y lle yn orlawn o blant yn prynu cas pensiliau newydd, a bagiau a cotiau ysgol newydd, felly i fi’n siŵr bo chi di bod yn neud yr un peth.

Felly ysgol yn ôl dydd Llun a dim ond un penwythnos bach ar ôl. I fi’n mynd i Llundain dros y penwythnos i weld “Sound Of Music”, peidiwch a gofyn pam, ma fe’n stori hir felly gobeithio fyddai ddim yn disgyn i gysgu. Felly gyd sydd da fi i ddweud yw MWYNHEWCH eich penwythnos olaf oherwydd bydd y cloc larwm na yn canu bore Dydd Llun cyn i chi droi rownd. BBBBRRRRRRRRRRRRRRRR. Ych a fi. Pob lwc.

Gwyliau Ger
Llaw lan pwy sy’n mwynhau’r gwylie haf? FIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIII!

O ydw, dwi wedi bod yn hynod o brysur dros y gwylie hyd yn hyn, yn mwynhau cwmni fy ffrindie ac eich cwmni chi. Oedd hi mor neis I gyfarfod chi gyd yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ac yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd, er sain siŵr os nath rywun guro fy sgôr I yn Pry-Bop.

Hefyd dros y gwylie es i, i Wembley i wylio Man Utd yn chwarae Portsmouth yn y Charity Shield, gem gwael ond profiad gwych o gael bod yn stadiwm anhygoel ac ma gweld Utd yn curo o gicie o’r smotyn o hyd yn fy atgoffa i o’r noson gwych na lle nath Utd guro Chelsea yn ffeinal Cwpan Ewrop. Iei!!

Ond ma rhestr yn parhau, fel o ni’n dweud I fi di bod yn fachgen prysur es i i Gaeredin ar gyfer gŵyl Caeredin i wylio bach o ddrama a gweld fy ffrindie yn perfformio. Pedwar diwrnod llawn hwyl a sbri. Ond nawr ma’r newyddion drwg yn dod... o'n i fod i fynd dros y penwythnos i ŵyl gerddoriaeth V, ond ar ôl fy holl deithio a joio…..I FI NAWR YN SAL ac bu raid i fi ddod adre diwrnod yn gynnar. Ie, newyddion trist, ac dwi wedi bod yn fy nghywely am y tri diwrnod dwethaf. Felly bach o gydymdeimlad os gwelwch yn dda…….helo bach o gydymdeimlad wedais i…….Aaa, Diolch!

Ond pythefnos o wylie I fynd felly unwaith I fi’n well, mwy o joio joio joio. Parti Pen-blwydd Nain yn 80 penwythnos yma felly trip bach i ddinas gore’r Gogledd, Bangor Dydd Gwener ac I ŵyl Faenol www-hww!. Welai chi’n fuan.

Haf Braf ar ei ffordd!
Dim ond un wythnos i fynd tan gwylie yr Haf. Wwww hwww!!  Fi di bod ar fy nghwylie yn barod blwyddyn yma, felly i fi’n mynd i lenwi y 6 wythnos o wyliau gyda trip Gaeredin, Llundain ac i Fangor i weld y teulu. Dyddie da! Methu aros. Tic-toc ma’r cloc yn tician mor araf. Dydd Gwener brysia!!

Chwarae pel droed heno, felly neith hynny helpu amser i hedfan. Gobeithio bod eich athrawon ddim yn neud iddo chi weithio yr wythnos yma! Os ma nhw gwedwch ma Geraint yn gweud “NA” :-D

Gobeithio fod pawb yn iawn. TARA!

Mel wedi mynd :-(
Wel wythnos yma tra bo fi’n gweithio yn galed iawn, ma Meleri wedi mynd adre i’r fferm i ymlacio. Iawn i rai! Felly Meleri, gobeithio bo ti’n meddwl amdana i yn gweithio yn galed. Ond newyddion mawr o lawenydd... mawr! Ma' Alex wedi ymuno gyda fi yn y stiwdio am yr wythnos. Iei!Ac hefyd i ni wedi symud nol i’n stiwdio gwreiddiol. Nath'o chi sylweddoli bo ni wedi symud ac wedyn mynd yn ôl? Hei hei, clyfar ontife?!

Ond newyddion trist nawr, na'th fy nhîm pêl-droed golli unwaith eto neithiwr, y 3ydd gem yn olynol. O diar. Ni nawr yn 5ed  allan o 7 yn y gynghrair. Problem yn fy marn i. Ond ar ôl i fi chwarae es i adref i weld Andy Murray yn ennill. Gornest a hanner, o'dd e yn wych. Felly pob lwc i Andy Murray yn erbyn Nadal. Fyddai angen  pob gronyn o lwc yn fy marn i. Cofiwch Pigo Trwyn Pwy wythnos yma.

Welai chi’n fuan. Taraa!

Flip Fflop :-(
Nes i godi bore ma, gyda awydd mawr i wisgo 'Flip Flops'. Ond yn anffodus odd e yn bwrw Glaw, ag ma raid i fi gyfadde o ni’n swp sal (ofnadw). Oherwydd ma Glaw a flip flops, a jeans sy’n cyfwrdd y llawr tra bo chi yn cerdded yn gyfiniad gwael iawn. Felly i fi wedi dod i gwaith yn gwisgo trainers gwyn arferol.  O! ma bywyd yn anodd ar adegau. Na gyd,sydd gyda fi i ddweud bore ma. Haul PLIS dere nol i fi gael gwisgo fy Flip Flops!!

Fi moyn Jet-ski!
Helo, i fi nol o’r diwedd o fy ngwylie yn Nhwrci. Ges i amser braf iawn, o’dd y tywydd yn boeth, y bwyd yn grêt a’r jet skis yn hyd yn oed yn well. Os byswn ni yn byw ar bwys y mor dyna’r peth cynta fyswn ni yn neud, prynu jet-ski. Gymaint o hwyl a sbri o’dd e’n grêt.

Ond  ma’n rhaid i fi gyfadde, ma fe’ n neis i ddod nol, a diolch byth o’dd Meleri ddim di gwneud unrhyw dric cas arna i tra bod fi i ffwrdd. Beth bynnag, mae pencampwriaeth Ewro 2008 wedi dechrau. Portiwgal i ennill yn fy marn i. Gobeithio bo chi gyd yn iawn ac yn mwynhau y tywydd braf.

Cerdyn Post gan Ger
Annwyl Meleri ac Alun (os yw Alun wedi cofio codi bore ma ar gyfer gwaith hynny yw). Fi ar hyn o bryd yn gorwedd yn yr haul, a fi ar y lap-top gyferbyn a pwll nofio, gyda diod oer wrth fy ochr. Ma’n gymaint o siom bo chi nol yng Nghymru fach. Ydy hi’n bwrw glaw? Os d’yw hi, ddim trueni bo chi tu fewn yn gweithio yn galed TRWY’R DYDD. Fory fi’n mynd i orwedd yn yr haul yn neud dim byd unwaith eto, ac y diwrnod canlynol mi fyddai yn gwneud yr un peth, ac y diwrnod wedyn, ac y diwrnod wedyn, ac y diwrnod wedyn. O, dyna braf...

O, ma raid i fi fynd nawr ma na ferch del yn dod draw i siarad gyda fi. TWDALW!

Cwpan yr FA
I ni’n mynd i weld Cwpan Yr FA heddi. I fi wedi cyffroi yn lan. Wooohoooo!!

COFIWCH WYLIO!

Gemau mawr iawn
Hip Hip Hwre, Hip Hip Hwre. Do , mi nath Man Utd ennill Cynghrair Lloegr, a fi’n hapus iawn. Dim ond 2 gem pêl-droed o bwys ar ôl tymor yma. Cwpan yr FA gyda Caerdydd yn herio Portsmouth ac wedyn Man Utd yn chwarae Chelsea yn Rownd derfynol cwpan Ewrop. Fi'n croesi fy mysedd mor galed does ddim gwaed ar ôl ynddyn nhw. Felly pawb sy’n darllen hwn, croeswch eich bysedd anwr dros Caerdydd a Man Utd......... Gobeithio bod chi yn croesi nhw........ Oi ti, croesa dy fysedd...... Na welliant. Mwynhewch yr haul!

Hapus yn yr Haul
Ma hi mor braf. Iei! Dim glaw yn agos i Gaerdydd ar hyn o bryd, sydd yn golygu llawenydd pur.  A sôn am lawenydd pur - Daeth fy nhîm pêl-droed i yn ail yn y gynghrair tymor yma sy’n meddwl bod ni yn symud fyny i gynghrair rhif 2. Iei! Felly digon o reswm i ddathlu. Cofiwch hefyd 15 diwrnod i fynd tan yr Eisteddfod. Byddwn ni yno felly cofiwch ddod i ddweud helo, ac hefyd danfonwch eich lluniau mewn ato ni os i chi yn ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod ar hyn o bryd- ebost y stiwdio yw mwy@s4c.co.uk

Ble Ma’r Bwti fory hefyd. Edrych ymlaen at y llanast!!

Torri Gwallt, tynnu coes!
Fel arfer dydw i ddim yn rhy hoff o fynd i dorri fy ngwallt. Ma nhw o hyd yn i dorri e yn rhy fyr ac yn gwneud be ma nhw moyn gwneud yn hytrach na be i chi moyn i nhw wneud. Ond heddiw  i fi’n edrych ymlaen i fynd oherwydd ma’r dyn sy’n torri fy ngwallt wrth i fodd gyda Lerpwl, ac gan bod nhw di colli yn erbyn Chelsea nos Fercher a bod Man  Utd wedi curo Barcelona ma gyda fi digon o reswm i dynnu ei goes trwy’r bore. YEY. Ond wedi meddwl falle bod hynny ddim yn syniad da, falle neith e rhoi toriad gwael i fi. O Ohhh, sain credu bo fi di meddwl hwn drwodd yn iawn......

Dwbwl arall i Man U?
HELO. I fi nol o fy wyliau o’r diwedd. Teimlo fel bo fi di bod i ffwrdd am amser hir. Ond ges i amser braf ond ma’n rhaid i mi gyfadde ma fe’n neis i fod yn ôl. Er bod y tywydd yn wlyb yma yng Nghaerdydd. Ond be i fi moyn siarad am go iawn yw buddugoliaeth Man Utd neithiwr. Odd e’n anhygoel. I fi mor hapus bod nhw drwyddo i’r rownd derfynol. Gobeithio nawr nawn nhw fynd ymlaen i ennill y Gynghrair ac y Cwpan. A wedyn fyddai yn wen o glust i glust.

Man Utd am y Dwbl. Wwww hww!!

Geraint wedi cynhyrfu
BLE MA’R BWTI YN OL FORY. O IEEEEEEE!!

Diogi a Chwaraeon
Wel yn 'doedd Dydd Sul yn ddiwrnod grêt?! Nes i godi am 12 o’r gloch, sydd bach yn hwyr, ond pam ddim, odd hi’n ddydd Sul! Ac yna es i i eistedd o flaen y teledu a nes i wylio Y Gweilch yn chwarae, yna recordio Man Utd a gwylio nhw, yna gwylio Caerdydd yn ennill. IEI. Ac ar ôl y gem yna, nes i wylio Y Gleision. O ni wrth fy modd. Trueni dim ond Caerdydd nath ennill,, a llongyfarchiadau mawr i nhw ond o ni mor hapus yn eistedd o flaen y teledu gyda’r holl chwaraeon.

Felly yn syml nes i ddim symud ddoe. Diog ond o’dd e’n GRET!!

Triciau
Helo. Sa'i wedi gwneud Blog ers amser maith, felly bant a fi. Gobeithio fod pawb yn mwynhau y gwyliau Pasg. I fi di bod yn brysur iawn gyda 2 sioe y dydd, ond wrth gwrs ges i ddigon o amser i wylio man Utd yn curo Roma neithiwr. Iei! Fi’ gwybod bydd “meilir432” yn hapus gyda’r canlyniad hefyd ar ôl gweld i neges e am gem Man Utd yn erbyn Lerpwl.

Hefyd os odde chi yn gwylio ddoe, fydde chi wedi gweld ein triciau Ffwl Ebrill ni, ma nhw ar y wefan i wylio, a ma nhw’n grêt felly ewch i wylio nhw. Fydde chi yn falch o wybod fy mod i wedi glanhau fy fflat erbyn hyn, ond i fi yn casáu glanhau a cadw’r lle yn daclus, felly os oes rhywun moen swydd i lanhau fy fflat unwaith yr wythnos, cysylltwch gyda fi.

Hefyd aeth y pysgod lawr yn grêt gyda pawb yn y swyddfa, ond fi’n credo  bydd pawb yn ceisio dial yn yr wythnosau nesa, felly well i Mel a fi wylio ei hunain. Beth bynnag, well i fi fynd, a cadwch i roid eich negeseuon ar y negesfwrdd ma nhw’n grêt ac i ni wedi cael llwythi dros y gwyliau felly diolch mawr tew i chi.

Gwyliau i chi - bore cynnar i ni!
Gwyliau y Pasg wedi dechrau. Woohooo. Gobeithio bod pawb yn barod am pythefnos, IE PYTHEFNOS o wyliau. I fi wrth fy modd gyda gwyliau hanner tymor, oherwydd bod ni’n gwneud rhaglenni yn y bore hefyd, sydd o hyd yn lot o hwyl. Er ma’n rhaid i mi gyfadde bod codi am 5am, yn bach o boen ond unwaith i fi fyny, i fi wrth fy modd.

Cofiwch i wylio Bob bore am 8 ac wrth gwrs am 4 fel arfer. Dwi hefyd yn edrych ymlaen i ddydd Sul. Man Utd Yn erbyn Lerpwl a Chelsea yn chwarae Arsenal. Penwythnos ENFAWR o ran pêl droed. O ma bywyd yn  braf. Wel mi fydd hi os yw Utd yn ennill. Gobeithio fod pawb yn iawn a welai chi yn gynnar bore fory. Peidiwch a bod yn hwyr.

CAMP LAWN!
Whoopdi Dwwwpi DOOOOOOOOOOO. Da iawn Cymru!

Ar ben fy hun
Ar ben fy hun ydw i, o ydw, dwi ar ben fy hun heddi. Dim Meleri heddi :-( Ma hi wedi mynd nol i’r gorllewin yn gynnar, a siwr o fod y foment yma ma hi’n gwisgo ei wellies, yn cnoi gwair yng nghanol ryw gae yn y Gorllewin yn gweddi  “Shwd Ma’n Ceibo”.  Oherwydd dyna gyd ma Ffermwyr yn neud fi’n credu, yw gwisgo lan a gofyn “Shwd Ma’n ceibo” ac yna ateb bob tro gyda’r un ateb. “Ooo joio”

Felly Mel os i ti’n darllen neu fy’n nghlywed i, gobeithio fod hi’n bwrw glaw a bod ti’n nhwlyb domen tra’n Joio ;-)

Super-Ger!
1 AWR, 50 MUNUD A 24 EILIAD. Dyna yr amser a gymerodd hi i mi redeg 13.1 Milltir ddoe yn Llanelli. Ma fy nghoesau i yn boenus, fi’n edrych mor wirion yn cerdded o gwmpas y swyddfa! A credwch chi neu beidio ma fy ysgwydd chwith i yn boenus hefyd! I fi’n teimlo cyhyre ar hyn o bryd do ni ddim yn gwybod oedd yn bodoli. Ond i fi mor falch fy mod i wedi gorffen y ras, ac hynny o dan  2 awr, dyna oedd fy nharged, felly fi wrth fy modd. Amser i fi godi o fy nesg nawr i fynd i’r stwdio......AWWWW!!

Penwythnos wych
Wel yn doedd Cymru yn wych Dydd Sadwrn? Yn rhoi crasfa go iawn i’r Eidalwyr. Es i i’r gem ag o ni’n eistedd gyferbyn a criw o Eidalwyr ac o ni wrth fy modd yn tynnu ei coesau nhw. Gêm galed i ddod,  ond i fi’n credu bod y Camp Lawn ar y gweill.

A gyda llaw, da iawn i Tottenham yn ennill y Carling Cup ddoe, i fi’n casáu Chelsea felly o ni wrth fy modd yn gweld Jonathon Woodgate yn sgorio gôl fuddugol Spurs. Sôn am bêl droed, fi’n chwarae heno, mae'r tîm ni ar dop ein cynghrair ni ar hyn o bryd, ac yn chwarae'r tîm sy’n ail heno. Felly nai adael chi wybod os natho' ni ennill a’i peidio.

Gobeithio gatho' chi benwythnos da. A cofiwch  i adael neges ar ein negesfwrdd. Fi newydd ddechrau ymgyrch i gael Ble Ma’r Bwti yn ôl, ar ôl i ni dderbyn neges jstuart1234. Felly helpwch yr achos!!

Blog annwyd
Yn anffodus dros y penwythnos dwi wedi magu ANNWYD. Felly ar hyn o bryd dydi anadlu trwy fy nhrwyn ddim yn opsiwn, a ma' dolur gyda fi yn fy ngwddf. Awwww! Felly, o gymeryd yr uchod i ystyriaeth, fysau chi’n meddwl y bydden i’n cael chydig bach o gydymdeimlad gan Mel. Ond...  Na, sdim ots da Mel o gwbwl, ma' hi’n cario mlaen yr un peth ag arfer. Sain gallu credu’r peth! Merched, na gyd weda i, chi’n dda i ddim! Yr unig berson yn y byd fydde’n rhoi cydymdeimlad i fi nawr yw Mam, ond yn anffodus dyw Mam ddim yma. Druan a fi.

Dydd San Folant
O ydi ma cariad yn yr awyr heddi.  O ni’n lwcus i gael un cerdyn bore ma. Ond os i chi moen danfon mwy ata i, peidiwch a stopio. Anfonwch nhw. Iei! Ond be i fi moen gwbod yw sawl cerdyn gafo chi? Pan o ni’n ysgol oedd dwrnod San Folant yn ddwrnod mawr. Fi’n cofio rhoi fy mersawr gore ymlaen, yn jelio fy nghwallt ac yn cesio prynnu cerdyn erbyn y bore heb i Mam a Dad ffeindio allan bod fi’n ffansio rhywun. Ond dwi’n siwr odd e mor amlwg yn enwedig gan fy mod i wedi jelio fy nghwallt a rhoi persawr ymlaen! Beth bynnag odd e'n lot o hwyl, a gobeithio gatho chi sawl cerdyn bore ma ac falle ambell i bresant.  A falle hyd yn oed cariad newydd. Iei! Gadewch ni wybod trwy’r negesfwrdd clonc ar y wefan!

Dim bai ar y bŵts!
Dim yr esgidiau newydd oedd ar fai am yr anaf i fy mhengîn! Nes i ddisgyn, a wnath coes ryw fachgen enfawr, cyhyrog, sefyll ar fy mhenglîn.  Dyle chi wedi gweld seis y boi, odd e'n ANFERTH! Ar ddamwain nath e sefyll ar fy nhgoes i, ma’n raid i mi gyfadde. AWWW Mawr yn wir. Ond ma fe yn gwella. Diolch i ti am ofyn Mel...?!

Marathon, a hanner!
Ma' Mawrth yr 2ail yn ddiwrnod mawr blwyddyn yma oherwydd dwi’n rhedeg hanner Marathon, sef 13, ie na fe, 13 Milltir. Nawr ma’r dyddiad yn brysur agosáu, ac y pella i fi wedi rhedeg ar hyn o bryd yw 6 milltir. Dwi’n mynd i barhau i redeg y 6 milltir yma trwy gydol yr wythnos yma ac wedyn dwi’n siŵr fyddai ar drac, (ha, chi’n gweld be nes i fyna?!) Trac – Rhedeg a trac?! O fi’n gwneud fi fy hyn i werthin ar adegau ;-)

Ie, felly mi ydw i yn poeni braidd am y ras, sai'n credu fyddai yn gallu gorffen y ras, a ma meddwl am y peth yn gwneud i fi golli cwsg, felly parhau i redeg yw yr unig beth i neud. Ond dwi angen help a dydw i ddim yn edrych ymlaen. Pam nes i gytuno i redeg y hanner Marathon?!! HELP!

Deffro...
Bore Da. Gobeithio natho chi fwynhau y rhaglen bore ma gyda Alex a Alun. O ni’n gwylio bore ma hefyd o gynhesrwydd fy ngwely OND bore fory bydd raid I FI godi am 5.30am er mwyn dod i gwaith er mwyn ymarfer y rhaglen cyn mynd yn fyw am 8.  AHHHHHHHHHHHHH. Dydw i ddim yn edrych ymlaen o gwbl. I fi’n casáu codi yn gynnar mwy nag i fi’n casáu Lloegr ac ma hynny yn ddweud mawr!

Felly Hanner Tymor iddo chi. Felly gobeithio eich bod chi yn gwneud rywbeth diddorol? Os i chi gadewch i ni wybod be i chi’n neud. Dwi’n eiddigeddus iawn eich bod chi’n cael wythnos bant, felly gwnewch y mwyaf ohono.

Dyna ddigon ohono i yn clebran. Cofiwch i wylio bob bore am 8 tan 10 ac yn y pnawn 4 – 6 a cystadlwch yn Pwy yw’r Seren. Ma na wobrau gwanhaol bod dydd. Welai chi’n gynnar bore fory. TARA!

Blogio cyflym
Fi a Mel yn cael cystadleuaeth pwy sy’n gallu neud blog cyflymach. Fi di ennill gobeithio.

Lloegr 19 – Cymru 26
I fi’n siŵr wedodd pawb, bod Cymru methu ennill, fydde nhw yn lwcus os fydde nhw yn llwyddo i roi gem dda iddyn nhw.....WEL nathon ni mwy na hynny, nathon ni guro nhw. Ooo do. Cymru yn curo Lloegr yn Twickenham am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.

WOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOO!

Dyna oedd fy ymateb i pam aeth y chwiban ar ddiwedd y gem. O'dd e'n wych. Pwy a ŵyr, os newn ni guro’r Albanwyr wythnos nesaf falle newn ni ennill y Pencampwriaeth. Ro ni hefyd yn dathlu fy mhen-blwydd dydd Sadwrn felly roedd y canlyniad dim ond yn helpu y dathliadau.

Daeth 30 o bobl i fy nhŷ i i wylio’r gem, ambell un yn Saeson felly doedden nhw ddim yn rhy hapus, ond roed tynnu eu coesau nhw yn grêt. Pwy fydde’n credu’r peth Cymru yn curo Lloegr? Yipeeee.

Ie, felly penwythnos grêt ond dwi wedi blino ar ôl y dathliadau felly chwarae pêl droed yn syth ar ôl gwaith heno ac yna yn syth i’r gwely i gysgu. Oooo fyse hi’n neis bod yn gwely nawr...........

Dathlu canlyniad Cymru...
IEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEE...

...EEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEE!!!!

Pob lwc i Gymru
Ma’r penwythnos wedi cyrraedd. IEI enfawr oherwydd fel chi’n gwbod ma na gem Rygbi yn cael ei chwarae fory. Fi’n wir gobeithio bydd Cymru yn ennill ond sain siwr os newn nhw. Fydd hi’n gem agos, falle Stephen Jones i ddod ymlaen yn hwyr yn y gem a cipio buddigoliaeth. Pwy a wyr...

Ma gyda fi llon ty o ffrindie yn dod draw i wylio’r gem. 20 fi’n meddwl. Ma hi’n benblwydd arnai Dy' Mawrth felly i ni’n dathlu Dydd Sadwrn. WOOO!! Dim byd gwell na parti!

I fi’n mynd i baratoi ar gyfer rhaglen pnawn ma nawr. Felly cofiwch i wylio fi oherwydd fyddai’n cyhoeddi ennillydd ein cystedleuaeth rygbi. POB LWC I BAWB A POB LWC I GYMRU FORY.

ZZzzzz!
YCH! Dyna sut dwi’n teimlo bore ma. Dwi wedi blino yn lân. Pam bod hi mor anodd i godi bob bore Dydd Llun? A pam bod y cloc larwm yn swnio mor uchel? Dwi’n meddwl yn hytrach na gwneud gwaith wrth fy nesg, a’i i gysgu ar y soffa yn y stiwdio. Ie, syniad da.

Peidiwch a gweud wrth neb, cyfrinach yw e...!

Aw!
Wythnos yma i fi wedi bod yn parhau gyda jogio 3 gwaith yr wythnos gyda’n ffrind. Ond mi nes i frifo fy nghefn i wythnos dwetha yn gwneud Her i Ger,( fydd rhaid i chi wylio i weld sut bob Dydd Iau!) A neithiwr  tra’n rhedeg roedd fy nghefn i yn andros o boenus.

I fi yn mynd i barhau i redeg ond yn anffodus ma ymweliad â'r doctor ar y gweill... Nai adel chi wybod be ma fe’n dweud :-S

Herio Ger
Bore Dydd Llun wedi cyrraedd unwaith eto. Bw. Ond ges i benwythnos bach braf, nath Man Utd guro Reading a ma nhw dal ar dop y Premiership. Er nathon nhw adael hi’n eitha hwyr Dydd Sadwrn? Gobeithio nath eich tîm chi ennill dros y penwythnos hefyd. Da iawn y Blues a’r Ospreys hefyd gyda llaw. Cadw Cymru ar y map!

Daeth penwythnos yma mewn pryd, erbyn dydd Gwener o ni wedi blino’n lan oherwydd dwi wedi bod yn ffilmio  eitem o ‘r enw “Her i Ger” ar gyfer y rhaglen ac ma nhw wedi bod yn “Her” gwych i mi. Mi fydd rhaid i chi wylio bod Dydd Iau nawr i weld pa her dwi wedi bod yn i wneud fydd yr un Cyntaf ymlaen D Iau yma. Ma nhw werth i weld ond a nai i lwyddo pwy a ŵyr????

Ble 'ma'r Beth?!
BLE MA’R BWTI. HEDDIW AM 4. WOOOOOOOHOOOOOO!!

(Mae Ger wedi cynhyrfu!)

Mwy o broblemau ffôns...
I fi’n casáu meleri, oherwydd ma hi wedi dwyn fy ffon. A sain gallu ffeindio fe? Ond i fi wedi dwy ei ffon hi tra bod hi’n sefyll drws nesa i fi a sa hi wedi sylweddoli eto. Ha Ha...!

Be sy'n bod ar Geraint?!
O DIAR. Mae Geraint wedi blino..... corff ddim yn gweithio heddi.  Felly dyma fy mhlog...

Dhhjdghhjirhuierwhuifydfyggwefhwefhdhfjkehuifrhyuiwehyfuiegfgefgyuwegfweghjcbdnm

bfdhbhjsdbgyudfgwdgfyuwegfygryigfhrhjfgrgfhyurhfghiegfhgruigfhuwegfyugyufgyugfuigf

uuiwefuirfhuihuweru uqweruiouasdfusdtruwefuufrgfygyugygygygygyyuuiweriwuerutr.

YYYYY! WEDI BLINO!

Beth fydd yn digwydd yn 2008? Chwaraeon wrth gwrs!
Mae’r Nadolig wedi hen fynd, ac ma dathliadau y flwyddyn newydd yn hen atgof erbyn hyn... Sydd yn golygu fod rhaid i ni aros blwyddyn CYFAN tan Nadolig. BOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOO!!!!!

Ond peidiwch a phoeni oherwydd dwi’n siŵr fydd 2008 yn flwyddyn wych. I ddechrau, mewn mis ma hi’n benblwydd arna i. Iei! Ma’r Eisteddfod yn Nghaerdydd. Iei! Mi FYDD Man Utd yn ennill y Premiership ac y Champions League????(Fi’n gobeithio) Ac yn yr haf fydda i ddim yn symud o’r soffa gan fod Pencampwriaeth Pêl Droed Ewrop ymlaen, AC mae’r Gemau Olympaidd yn Beijing. WOOOOHOOOOO!

A hefyd, faith diddorol, ond trist i chi am 2008 yw bod hi’n 50 mlynedd ers i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd (Pêl Droed) pryd gollon nhw i Brasil 1- 0 yn 8 olaf o’r gystadleuaeth.

Ond yn anffodus ni  fydd Cymru yn Pencampwriaeth Ewrop blwyddyn yma, ond pwy a ŵyr falle nawn nhw ryw ddydd...

Felly yn syml, ta ra 2007. Helo enfawr i 2008 a’r holl chwaraeon sydd ymlaen!!

Annwyl Siôn Corn...
Un penwythnos bach arall, yna bydd Noswyl Nadolig yma ac yna fydd fy ngwyliau Nadolig i o ddiwrnod yn dechrau. Iei! Fel ma' hi’n digwydd bob tro, byddai’n cael 2 Nadolig. Ar Dydd Sul y 23ain o Ragfyr fydda i yn cael Nadolig gyda Dad, ac yna fyddai yn gwaith Noswyl Nadolig ac yna Diwrnod Dolig gyda Mam a fy mrawd.

Felly presante di ri -  Iei! I fi’n gobeithio cael teledu newydd Dolig yma i’n stafell wely felly gawn ni weld os ddaw Siôn Corn â un i fi. Fel chi’n gallu gweld/darllen i fi wedi cynhyrfu’n llwyr am yr ŵyl felly Ho! Ho! Ho!, dere Siôn Corn yn gloi gyda fy nheledu newydd?!!

Amser i Ger
Druan â Meleri, tra bod hi wedi bod yn gweithio’n galed trwy gydol yr wythnos, fi wedi bod yn cael ambell i ddiwrnod bant. Felly, fi di bod yn gorffen fy siopa Nadolig, ac wrth gwrs yn gorffwys, fel ma' Geraint yn haeddu i wneud. Lol! Gobeithio eich bod chi wedi fy methu i, a bod Meleri, Alun ac Alex wedi bod yn bihafio.

Wel ma’r Nadolig bron yma nawr ac i fi methu aros! Ma fy nghoeden Nadolig i ar holl drimins i fyny yn y tŷ. Dim ond lapio presante sydd da fi ar ôl i wneud nawr.  Rywbeth i fi ddim yn dda iawn yn ei wneud!

Bydd diwrnod Nadolig yma cyn i ni droi nawr, felly gobeithio fod chi hefyd wedi gorffen eich siopa. I fi dal angen prynu presant i Meleri, ond well i fi beidio dweud beth sydd da fi mewn meddwl, rhag ofn iddi ddarllen hwn...

Fi’n mynd nôl i weithio nawr. Gobeithio fod chi gyd yn iawn. A chofiwch wylio dros y Dolig, ma na llond tŷ o wobrau gwych i chi ennill. Felly falle mae chi fydd yn ddigon lwcus i’w ennill nhw!

Amser am barti!
Os oes rhywun yn gweud y gair PARTI i fi, ma un peth yn digwydd,  fi’n mynd yn wallgof ac fel plentyn bach wedi cynhyrfu yn syth!

Ac heno ma, rydyn ni yn cael ein PARTI NADOLIG. WOOOOOOOOOOOOOOOOOOOO!!

Chi’n gweld, fi fel plentyn bach.

Mi oedd awydd gyda Mel a fi i wisgo fyny mewn “ffansi dress” ond ma pawb arall yn mynd yn smart yn ei teis a’i dici bows felly well i ni neud yr un peth.

Mi o ni moen mynd fel Siôn Corn, fysau hynny wedi bod yn ddoniol.  Ond i fi’n edrych ymlaen yr un peth, felly noson hwyr heno ond peidiwch a phoeni fyddai ni yn ôl fory ru’n peth ag arfer.

Mae y Nadolig wir yr wedi cyrraedd nawr. Iei!

O ie, a weloch chi gwyneb Dylan Ebeneser ddoe pryd roddon ni anrhegion Spurs iddo fe? Fel fysau’r hysbyseb Mastercard ar y teledu yn dweud “Priceless”, neu “Amrhisadwy” i ni’r Cymry!

Nadolig yn dechrau
Wel bore ma mae Meleri a fi yn mynd i siopa am fwy o ddillad. Iei!

Dwi’n gobeithio prynu ambell anrheg Nadolig i fi fy hun hefyd ond peidiwch a dweud wrth y boss!

Na jôc, sa’i yn, ond fydd hi yn neis i gael lot o ddillad newydd ar gyfer y Nadolig ar flwyddyn newydd.

Hefyd i fi’n gobeithio o heddiw ymlaen fydd dre yn llawn naws Nadolig ac felly fydd y naws yna yn fy’n nghyrraedd i a fydd y Nadolig yn dechrau go iawn o heddiw ymlaen.

Bach yn gynnar falle, ond i fi wrth fy modd.

Siôn Corn a’r Nadolig, fi’n barod, dewch yn llu!

Pêl droed a Soffas
Wel gobeithio o’ch yn gwylio ddoe oherwydd os ddim, wnaethoch chi fethu rhaglen a hanner.

Penderfynodd Meleri a f i ddwyn (fenthyg) soffa Alex Jones sef ein gwestai ni am y diwrnod.

Doedd dim clem da hi mae ei soffa hi oedd e, dim ond gwneud sylw bach fod da hi yr un soffa adre.

Pan ddwedon ni wrthi roedd ei gwyneb yn bictiwr.

Roedd hi’n raglen gwych felly gobeithio wnaethoch chi ei gwylio!

Hefyd neithiwr wnaeth Man Utd guro Sporting Lisbon 2-1 gyda gol hwyr gan Cristiano Ronaldo.

Felly roedd hynny yn werth i weld ac wnaeth Arsenal golli i Sevilla, sy’n wych gan fy mod i’n casáu Arsenal, ac hefyd mae fe’n rhoi fwy o ddeunydd i mi pan fydd Dylan Ebenezer (sy’n cefnogi Arsenal) yn y stiwdio wythnos nesaf.

Yn anffodus nes i ddim gwylio’r gem neithiwr oherwydd es i, i wylio Kayne West yn y CIA.

Roedd y lle yn orlawn a pan ddaeth Kayne West ar y llwyfan aeth y dorf yn wyllt.

Roedd hi’n gyngerdd gwych ac yn sioe hyd yn oed gwell.

Felly es i i’n wely wedi blino’n lan neithiwr ond yn hapus braf.

Da iawn Cymru!
IEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEE!

Da iawn Cymru neithwr a da iawn Croasia.

Ro’n ni berson hapus iawn neithwr.

A druan a Steve McClaren…!

Meddwl am Loegr
Mae hi’n noson fawr iawn heno.

Mae Lloegr yn chwarae yn erbyn Croatia.

Ac os yw Lloegr yn llwyddo i gael pwynt, mae nhw yn mynd drwyddo i Pencampwriaethau Ewrop.

Nawr, odd Lloegr angen i Israel o bawb GURO Rwsia nos Sadwrn, ac ryw ffordd neu gilydd, llwyddodd Israel i ennill, sy’n rhoi gobeithio Lloegr nol yn ei dwylo nhw.

Rhywbeth doedd ddim yn debygol o ddigwydd! Falle bod rhai ohono chi yn cefnogi Lloegr, ond i fi yn casáu gweld Lloegr yn llwyddo, gan bod fy ffrindiau i sy’n byw ochr arall y Bont o hyd yn tynnu fy nghoes am fethiannau Cymru.

Felly gyd wead i yw.

C’MON CROASIA, gyda llais Arthur Picton o C’MON MIDFIELD!

Sialens i Nigel
Ma Nigel Owens yn dod i’r stiwdio heddi, a ma Meleri a finne, wedi gwisgo fyny fel chwaraewyr Rygbi.

Ma da fi shell siwt hen ffasiwn, gan fyddai yn gwneud sialensiau yn erbyn Nigel.

Ond ma rhaid i mi gyfadde bod ni’n dau yn edrych yn wirion iawn, yn eistedd yn y swyddfa!

Ond does dim ots, pawb arall sy’n genfigennus o’n gwisgoedd newydd ni......Hmm, falle ddim..!

Gwestai Dydd Mawrth
Bore Da.

Ma’ Tara Bethan yn ymuno a ni yn y stwdio pnawn ma.

Tara yw ein ail gwestai felly mi fydd hi dal yn od cael rhywun yn y stwdio gyda ni.

Ond fydd yn brofiad gwych dwi’n siwr.

Oherwydd fod Tara  yn y stwdio gyda ni, rydyn yn treulio lot o’r diwrnod yn ymarfer ein lincs rhwng y rhaglenni ac yn mynd dros y cwestiynne gyda Tara i wneud yn siwr fod hi’n hapus gyda beth i chi’n mynd i ofyn iddi – ry’n ni wedi cael llwyth o gwestiynnau gennych chi, diolch!

Dwi’n edrych ymlaen i gael sgwrs gyda Tara, gan ei bod hi wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar ac wedi bod yn gysylltiedig gyda sawl prosiect gwahanol, action, cyflwyno a canu.

Dwi bant i baratoi nawr, sy’n golygu newid a rhoi bach o golur ymlaen.

Bw :-( Fel rheol i fi’n cymryd tua 5 munud i baratoi a ma' Mel yn cymryd ryw hanner awr, felly well i fi fachu’r ystafell goluro cyn i Mel wneud.

Meleri ddigwilydd!
Pam fod Meleri mor rude?!

I ni’n eistedd gyferbyn a’i gilydd ac i fi’n ceisio cael sgwrs gyda hi, ond ma hi’n anwybyddu fi ac yn dweud bod hi’n gwneud gwaith.

Sain credu bod hi’n gwneud gwaith o gwbl, ma hi siwr o fod yn syrffian y we.

I fi’n mynd i daflu rwbeth ati hi i gael ei sylw i weld os neith hwnna weithio.

Mwy o bêl-droed!
Helo Bawb. Ma’ wythnos arall wedi cyrraedd unwaith eto.

Gobeithio gawsoch chi gyd benwythnos werth i’w gofio.

Ges i benwythnos digon hamddenol.

Diolch byth mi wnaeth Man Utd guro Blackburn 2 – 0, ac heb Wayne Rooney felly roedd hi’n fuddugoliaeth dda iawn. Sôn am bel-droed, dwi’n mynd i chwarae pêl-droed 5 bob ochr heno.

Felly gobeithio neith hi gynhesu rywfaint erbyn heno.

Ond bore ma' cyn dod i’r gwaith sylweddolais fy mod i wedi colli fy shin pads, felly fydd rhaid i mi frysio i brynu rhai heno cyn i fi chwarae am 8 o’r gloch.

Digon o amser felly fydd hynny’n iawn.

Mi nai adel i chi wybod sut aeth y gem yn y fy mlog nesa i.

Nai siarad gyda chi’n fuan a mwynhewch y rhaglen heddiw.

Penwythnos da i ddod
Wel, ma hi’n fore Dydd Gwener, sy’n golygu bod y penwythnos yn dechre heno. Iei!

Dwi wedi penderfynu cael penwythnos tawel wythnos yma oherwydd i ni wedi bod yn brysur iawn wythnos yma, ac dwi’n haeddu seibiant yn fy marn i, ac hefyd dwi’n dechre magu annwyd, felly gorffwys yw’r peth gore.

Ond yn dweud hynny, dwi credwch neu beidio bron wedi gorffen fy siopa Nadolig, dim ond fy mrawd Daniel i fynd, ac ma fe’n hawdd i brynu ar ei gyfer, felly dwi’n gobeithio gorffen fy siopa Nadolig Dydd Sadwrn yn dre.

A fydd hynny yn gamp a hanner o ystyried bod mis Rhagfyr yn bell, bell i ffwrdd!

Penwythnos yma, yr un peth a pob penwythnos i fi’n brysur yn cadw golwg ar holl chwaraeon Prydain.

Wythnos diwethaf mi wnaeth Man Utd, tîm gore’r byd, ildio gol yn y munude olaf yn erbyn  Arsenal i sicrhau pwynt yr un i’r ddau dim.

Gorffennodd y gem 2 -2.

On ni wedi siomi GYMAINT.

Felly gobeithio neith Utd guro Blackburn dydd Sul, mi fydda i yn gwylio gyda fy ffrindie, cyn mynd draw i Tŷ Mam yn y nos i gael cinio dydd Sul hwyr.

Ni’n tueddu i gael cinio Sul yn y pnawn fel bod pawb yn cael gorffwys a cysgu’n hwyr yn y bore. GRET!

Wythnos nesa ma gyda ni Tara Bethan ar  rhaglen, ac i ni’n chwarae ein gem newydd Ble Ma’r Bwti felly ar ôl ymlacio penwythnos yma fyddai’n fwy na parod am ddydd Llun, nid fel Dydd Llun diwethaf.

Mwynhewch y Penwythnos

Gwestai a Rhyl FC
Wel, fel chi wedi gweld, roedd Sarra Elgan yn y stwdio ddoe.

Roedd hi’n gret cael gwestai ar y rhaglen, mi roedd en creu awyrgylch gwahanol, ac awyrgylch grêt i gael unwaith yr wythnos am bach o amrywiaeth.

I chi a na wnaeth wylio ( rhag eich cywilydd) mi atebodd Sarra bob math o gwestiynnau, a oedd yn son am pryd wnath hi gyfarfod Simon Callow a Uri Geller.

Difyr iawn.

Yn y stwdio ddoe roedd GAC enwocaf S4C sef Anji B.

Ma’n rhaid i mi gyfadde fy mod i wrth fy modd gyda hi.

Ma hi mor haerllug ac does dim ots gyda hi os yw hi yn brifo teimlade pobl (er bod hynny yn wael iawn).

Mae hi yn ddoniol iawn tra yn tynnu coes, ond fydd rhaid i fi ddweud wrthi ryw ddydd bod Rhyl FC yn RUBBISH a dyle hi ddim brolio am y peth gymaint.

Yn bersonol sain credo bod hi’n gwybod dim byd am bel droed. LoL!

Ond sain credu fydde hi’n gwrando arna i, dim ond rhoi llond ceg yn ôl i mi!

Hefyd, falle bod chi di sylweddoli nes i dorri fy nghwallt ddoe hefyd, i fi’n casau torri fy nghwallt, mae well da  fi e yn hir, ond fi’n siwr neith e dyfu yn ôl!

Felly oedd ddoe yn ddiwrnod prysur iawn.

Heddi dim gwesteion,  dim ond fi a Mel, ond peidiwch a phoeni mae rhaglen gwych yn aros amdano chi yn cynnwys Peirianhygoel a Sgorio Bach.

Iei!

Bocsio a cyflwyno – gwaith caled!
Daeth dydd Llun yma yn llawer rhy gyflym, ges i benwythnos brysur ac ar ôl mynd i wylio Joe Calzaghe yn bocsio nos Sadwrn am 1 y bore (gan fod y bocsio yn cael ei ddarlledu’n fyw i America) o ni dal wedi blino ac yn ffeindio hi’n anodd iawn i godi yn union fel chi ar fore d. Llun pan rhaid i chi fynd i’r ysgol. Ond mi rydw i yn edrych ymlaen i  wythnos yma oherwydd mae Sarra Elgan yn y stiwdio gyda ni ac Anji B o’r Rhaglen Wirionach Fyth, felly ein gwesteion cyntaf! Fi’n siŵr eith bob dim yn iawn, ond cofiwch anfon eich cwestiynne mewn ar ei chyfer hi.

Mynd yn fyw yn yr wythnos gyntaf!
Pan o ni’n arfer eistedd adre a gwylio rhaglenni teledu fel Planed Plant, do ni byth yn ystyried y pethe sy’n mynd ymlaen tu ôl y camera.

Tra bod ni yn y stiwdio mae na griw o bobl yn y Galeri sy’n gallu siarad â ni trwy ddyfais sydd gyda ni yn ein clustie.

Tra bod ni yn siarad â chi adref, mae nhw yn siarad â ni yn ein clustie yn dweud wrtha ni ble i edrych ac yn ein cyfri ni lawr i’r rhaglen nesaf neu y toriad nesaf.

Mae rhaid i mi gyfadde' ei fod yn cymryd amser i ddod i arfer gyda fe!

Dyna’r peth anoddaf i ddelio gyda tra bod ni yn cyflwyno, heb sôn am fod yn nerfus, gan bod ni’n mynd yn fyw ar y teledu bob dydd!

Fi’n siŵr ddown ni i arfer gyda’r cyfri yn ein clust ac fe eith y nerfusrwydd.

Mi ydyn ni yn ddigon cyffyrddus ar y set, a dwi’n edrych mlaen nawr i wythnos nesaf lle fydd gyda ni westeion yn y stiwdio, a bydd ambell un ohono chi yn y stiwdio gyda ni yn chware ein gem newydd ni “Ble mae Bwti”, felly fydd cael chi yn y stiwdio gyda ni ar sioe fyw yn lot mwy o hwyl!

Gwibdaith o Gaerdydd
Cyn dechrau ffilmio, aeth Meleri a fi ar fws o amgylch y dre.

Un rheswm oedd i Meleri gael gweld prif leoliadau Caerdydd, ac y llall oedd i hysbysebu rhaglenni sydd ar y rhaglen... gyda'r ychelseinydd unwaith eto.

Felly meddyliwch, Bws mawr coch, dwy lefel, heb do. A fi a Meleri yn gweiddi ohonno. Wel odd pawb ar y bws wrth ei bodd oni bai am y dyn a oedd yn tywys pawb o'dd ar y daith!

Ond uchafbwynt y bws oedd cyfarfod criw o gefnogwyr Sealand Newydd a oedd draw ar gyfer y Rygbi.

Roedden nhw wrth ei bodd, ac yn sgwrsio gyda ni yn ddi stop.

A hefyd helpo'n nhw ni gyda ambell i linc i gamera.

Gan fod nhw'n mor garedig nathon nhw roi, tedi bach o Sealand Newydd i Meleri a "keyring" Seland Newydd i fi.

Chwarae teg iddyn nhw. Diolch bois!

Dod i arfer â'r swydd newydd
Wel am swydd. Y diwrnod cyntaf o ffilmio, mi roedd y criw camera yn dod i fy nhŷ i. Un Problem, oedd y tŷ'n llawn platiau budr, dillad ym mhob man ac doedd y flat heb gael ei lanhau ers i fi symud mewn (sef blwyddyn yn ôl.) Felly dyna lle o ni ar Nos Sul yn glanhau fel hen fenyw. O ni wrth fy modd. Honest.

Yna daeth y bore, godes i'n gynnar cyn i'r criw ddod, oherwydd roedd angen gwneud rywbeth arbennig iawn bore ma. Sef rhoi colur ymlaen. Dyna lle o ni yn sefyll o flaen drych YN COLURO. ANHYGOEL. Fyse'n ffrindie i yn chwerthin am byth tase nhw'n fy nghweld. Ond diolch byth does dim llun. Oh diar. Oes ma na. AHHHH.

Ond ar ôl i mi ymbincio, daeth y criw, a dyna lle nath yr hwyl ddechre. Athon ni i fowlio deg, chwarae ar y Nintendo Wii, mynd i'r sinema, ac ymweld a Stadiwm y Milleniwm, lle mi fydda i yn chwarae pel droed i Gymru ryw ddydd. Yn enwedig os in nhw dal i golli fel ma nhw. Twt twt. Felly gafon ni fore gwych.

Ar ôl helyntion y bore, death Meleri i ymuno a ni. Iei! Ac erbyn hynny roedd hi'n amser bwyd, felly i'r Bae a ni am fwyd a hufen ia. Blasus iawn.

Ar ôl bwyta daeth yr hwyl go iawn. Nid oeddwn erioed wedi disgwyl gwneud be wnaethon ni y pnawn yno ond mae'n rhaid i mi gyfadde roedd hi'n hwyl.

Ein swydd am y pnawn oedd i hysbysebu rhaglenni newydd sydd ar y rhaglen. Felly gafon ni uchelseinydd, dillad dawnsio a chriw camera, ac bant a ni weiddi manylion y rhaglenni lawr Queen St. yng Nghaerdydd, ac i siarad i bobl ddiethr, odd ddim eisiau siarad i ni o gwbl. Odd hynny'n ddoniol iawn. Ond roedd y rhan gore dal i ddod. Mi benderfynnodd ein bosses bod nhw am i ni wisgo fynny fel dawnswyr o sbaen, a DAWNSIO, IE DAWNSIO yng nghanol Caerdydd. Doniol iawn. NA SAI'N CREDU! A dyna be wnaethon ni, ac fe rhoddodd ryw fachgen 20c i ni. GWYCH. Pam yn y byd wnath e roid arian i ni? Falle talu i ni adael oedd e?!

A dyna be wnaethon ni, yn chwerthin yr holl ffordd gyda'n 20 ceiniog...!