Blog
Nadolig Llawen
Heia criw y we! Dyma nodyn bach i ddeud Nadolig Llawen wrtha chi, a gobeithio bo chi'n cael diwrnod bril! Dwi'n edrych mlaen i weld chi i gyd ar Planed Plant yn fuan, dwi am fynd i agor fy anrhegion gan Tudur a Lois!! Hwyl! :-D
Aw!
Wel am wythnos brysur iawn fan hyn yn Planed Plant! Ni'n yn paratoi ar gyfer y Nadolig, ac i fi methu aros! Dyle chi weld maint fy rhestr Nadolig i, ma fe’n ENFAWR! Ond ar y rhestr ma na Law Chwith.O ie, glywoch chi yn iawn. Llaw chwith. O'n i…
Wps...!
Wel am wythnos gyffrous hyd yn hyn... Nes i godi bore Dydd Llun yn hapus braf yn sgil buddigoliaeth Cymru a Man Utd. A dyna lle o ni yn gyrru yn y car i gwaith ac yna........ NATH FY MYD DDOD I STOP. Nath y car dorri lawr! Druan a…
Nol i'r chwaraeon!
Mae di bod yn sbel ers i fi neud blog yn y ffordd hen ffasiwn, sef ysgrifennu, felly i fi wedi penderfynu gwneud un! I fi wedi bod yn sâl iawn gyda’r ffliw... dydd ar ôl dydd yn y gwely, wedi lapio fyny yn chwysu y cyfan allan... Doedd e…
Gwe-hei! Pwllheli
O na! Nid o Bwllheli, ond o Garnfadryn! (Pentref bach tu FAS i Bwllheli!)
Co' nhw, Elliw, Non Heledd a Lois!
Da iawn chi ferched, wnaetho'ch chi ennill lot o wobrau, gobeithio bydd Elliw yn rhannu... ond sai'n credu, mae hi'n dishgwyl yn ddrwg ;-)
*Sniff* Fi'n sal!
Ych, mae gen i annwyd afiach - ond dwi nôl nawr! Dwi wedi dwli ar fy anrheg newydd....
Wel, dewch mlaen - fi wedi bod yn sal, fi'n cael ymddwyn ychydig yn od, ok?! Mae'r 'earpiece newydd' YN ddiddorol iawn!
Gwe-hei! Criw Llwyncelyn
Shw'mai mawr i 'gwe-heiwyr' gwych dydd Mawrth - Cole, Cameron, Iestyn a Jack o Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn!
Mae'r bois yn joio Rygbi, felly lwcus eu bod nhw wedi ennill yr holl nwyddau Rygbi yn y gystadleuaeth ondyfe?!
Gwe-hei!
Dyma nhw - y Gwe-hei-wyr wythnos yma!
Elis, Beca, Dafydd a Bethan o'r Eglwys Newydd. Mae nhw wedi gweithio'n galed iawn iawn iawn ar y posteri 'na... trueni mai gyda ni yn y stiwdio o'dd Gethin o'ndyfe?! :-p
Sgiliau Ger?
O'n i'n siarad gyda'r gwe-gam bach wedi i ni ddiwedd ffilmo neithiwr, dwi'n dechrau dysgu shwt i ddefnyddio'r camera yn araf bach...
... ond o'n i DAL yn trio chware'r gêm am orie wedyn!
Fi'n credu bod colled arna'i - o'n i methu mynd gatre heb ddiwedd e!
Blog fideo cyntaf Ger!
Fi wedi bod yn yma yn ymarfer gyda gwegam newydd Planed Plant - ond mae'r gliniadur (laptop!) bach bach wedi bod chydig o waith caled... Ond ge's i dro arall arno... A ni nawr yn ffrindiau! Dyma'r tro cyntaf i Alex a fi gael tro arno, mae lot da ni…
Gwe-hei-wyr Caerfyrddin
Dyma nhw, Steffan, Dylan, Hannah a Jessica - sêr y Gwê-gam wythnos yma - on dy'n nhw'n edrych yn bert yn eu dillad Gwêd y Gwir?!
Mwa ha hah!
MWHA HA HA HA HA!! Gobeithio bo chi gyd wedi mwynhau wythnos Calan Gaeaf. Gath Alex a finne lot fawr o hwyl wedi gwisgo lan fel Mr a Mrs Draciwla! A gobeithio fod chi di mwynhau yr holl ddŵr wrth i ni ddowcio afalau. Llongyfarchiadau i bawb nath ennill gwobrau…
PENCAMPWYR!
Fel i chi gyd yn gwybod, fi’n chwarae Pêl Droed bob nos Lun, ac nos Lun yma mi nathon ni ennill y Gynghrair! O do! Ni yw y PENCAMPWYR... IEI! Mae rhaid chwarae bob tîm 3 gwaith ac yna, wel, dyna ddiwedd y tymor. Felly, gyda 3 gem yn weddill,…
Ger ar Goll
Ges i drip bach yn y car penwythnos yma. I chi sydd gyda côf anhygoel, byddwch chi yn cofio bod Meleri wedi cael swydd yn cyflwyno rhaglen Werdd o’r enw Gobldigwyrdd, wel penwythnos yma es i i wylio nhw yn ffilmio er mwyn creu rhaglen Tu ôl y Llen i…
Trip Man U
Wel i fi nol mewn un darn. Es i lan i Fanceinion echddoe i wylio Man Utd yn chwarae Celtic! Gêm wych a Utd yn ennill. A fi’n siwr bod pawb yn dweud yr un peth... "o'dd da fi seddi gwych"... Ond wir yr odd y seddi YN wych!! O…
Bwrw glaw...
Bwrw Glaw yn sobor iawn, dyna beth yw’r stori fan hyn yn Caerdydd ar hyn o bryd. I fi’n credy dyle nig yd, ac i fi’n meddwl pawb yng Nghymru godi lan bag, llenwi e gyda dillad a bob dim i ni’n hoff ohonno a symud i rywle poeth fel…
Be Nesa? Ennill Mwy!
IAAAAAAAAAAAAAAAAAAAHWWWWWWWWWW!!!
Playstation 3 arall wedi mynd heddi! Llongyfarchiade mawr i ti Hannah. Gobeithio neu di fwynhau dy wobr :-D
O IEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEE!
Penwythnos o bêl drioed Cymru
Haia! Ar hyn o bryd i chi gyd yn gweithio yn galed yn yr ysgol dwi’n siŵr, ond yn anffodus does dim amynedd neud dim arna i, felly dwi wedi penderfynu i ddod fan hyn i siarad am bel droed. Es i lawr i wylio y 2 gem bel droed…
Mae'r PS3 wedi mynd!
IAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAA HWWWWWWWWWWWWW!!
Da iawn ti Anest am ennill y Playstation 3. Fi mor hapus! Mwynha a cofio adael ni wbod pa geme ti’n brynu ar i gyfer e, a pwy ti’n mynd i alw draw i chwarae gyda ti.
Deintydd!
DEINTYDD, DEINTYDD, DEINTYDD! Ddoe ges i y fraint o fynd i weld y Deintydd. A ma raid i fi gyfadde, fi ddim yn credu odd en gwbod be odd en neud. Bron iddo fe rwygo fy ngheg i fewn i ddarne! Yn chwifio ei declynne nol a mewn i fy…
← Blaenorol (Tudalen 1 o 5) Nesaf →


