1. Logio mewn
  2. Ymuno

English

Blog

Nol i'r chwaraeon!

gan Geraint - 27 Tachwedd, 2008

Mae di bod yn sbel ers i fi neud blog yn y ffordd hen ffasiwn, sef ysgrifennu, felly i fi wedi penderfynu gwneud un! I fi wedi bod yn sâl iawn gyda’r ffliw... dydd ar ôl dydd yn y gwely, wedi lapio fyny yn chwysu y cyfan allan... Doedd e ddim yn neis o gwbl, ond i fi’n well nawr! Iei!

Fi wedi bod yn gwylio lot o chwaraeon yn ddiweddar, gyda’r rygbi a’r pêl droed ymlaen bob penwythnos, a neithiwr a nos Fawrth oedd nosweithiau y Champions League. Man Utd drwyddo i’r rownd nesa ac ar y ffordd i ennill y bencampwriaeth eto – wel gobeithio!

A sôn am bel droed fydd Owain Tudur Jones yn y stiwdio wythnos nesa – edrych ymlaen i gael e yn y stiwdio er mwyn i ni gael trafod pêl droed trwy gydol y pnawn... ha, sori Alex!

Ma Cymru yn chwarae Awstralia Dydd Sadwrn, a ma da fi docyn i’r gem, felly cadwch lygad allan amdanai. Os i chi’n mynd, be am i chi adael i ni wybod ar neges-fwrdd Mwy?

Wel, dyna ni am y tro, gobeithio bo chi gyd yn bihafio a welai chi’n fuan!

Hefyd ar mwy

Logio mewn



Anghofio cyfrinair?

Ar y teledu heddiw

  • Spider-Man 04:00 pm
  • Hotel Eddie 04:25 pm
  • Ffeil 04:50 pm
  • Rownd a Rownd 05:00 pm
  • Rownd a Rownd 05:30 pm
Pen-blwyddi heddiw