Iiii Haa!
Neidiwch lan ar y ceffyl ‘na cowbois, mae rhaglen newydd sbon ar Planed Plant yma i ddysgu chi sut i farchogaeth – Iiii Haa!
Mae Meleri, cyflwynwraig Planed Plant yno i’ch dysgu am bopeth i wneud â reidio ceffylau, a Rhodri yw’r boi i ddangos i chi bod llawer mwy i geffylau na neidio ar gefn y ceffyl, beth am ddysgu peidio cwympo bant, a dysgu mwy am garthu?! Mae criw ysgol Iii Haa yn gorfod gwneud hyn i gyd a mwy, felly cofiwch wylio i weld os y bydden nhw yn gallu dal ati!
