Nid yw dros 7 miliwn o boblogaeth Prydain yn gwneud digon i baratoi ar gyfer ymddeoliad a ‘dyw nifer ddim hyd yn oed wedi dechrau cynilo eto. Betha mae hyn yn ei olygu i ni fel cenedl a beth sydd ar gael er mwyn annog pobl i wneud y mwyaf o’r hyn sydd ar gael?
Gwasanaeth ffôn “Age UK Advice” yn darparu gwybodaeth am ystod eang o feysydd: 0800 169 65 65
Mae modd cael yr holl wybodaeth angenrheidiol a chyfredol am bensiwn y wladwriaeth ar: http://www.direct.gov.uk/en/SiteInformation/DG_10015420
(Pensiwn Sylfaenol yr wythnos am 2011 – 12)
Mae faint o bensiwn y wladwriaeth mae person yn ei gael yn ddibynnol ar y nifer o flynyddoedd mae rhywun wedi bod yn talu Yswiriant Gwladol (NI). Mae pob blwyddyn gymwys o daliad yn cyfri at y pensiwn ac mae person yn adeiladu blynyddoedd cymwys os yw’n:
Er mwyn derbyn pensiwn llawn y wladwriaeth mae angen i’r mwyafrif fod a 30 mlynedd o flynyddoedd cymwys. Os nad oes ganddo chi’r holl flynyddoedd cymwys mae’n bosib gwneud cyfraniadau NI gwirfoddol er mwyn eu cael nhw.
Unwaith mae ganddo chi 30 mlynedd cymwys o daliadau mae’n bosib i chi gynyddu eich pensiwn gwladwriaeth ond bydd angen i chi dalu Yswiriant gwladol cyson nes eich bod chi’n cyrraedd oed ymddeol.
Pan mae rhywun yn cyrraedd oed ymddeol mae’r llywodraeth yn edrych ar y cyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn rhoi ffigwr ar y Pensiwn wythnosol. Os oes ganddo chi lain a 30 mlynedd cymwys o daliadau fe fyddwch chi’n derbyn llai na’r Pensiwn Statudol Sylfaenol.
Nid yw cynilon personnol yn dylanwadu ar eich Pensiwn Gwladwriaeth. Does dim gwahaniaeth os oes ganddo chi gyfrifon cynilon, pensiwn personnol, eiddo neu incwm ychwanegol arall – yr un fydd y Pensiwn Gwladwriaeth.
Mae rhai yn cynhlethu Pensiwn y Wladwriaeth gyda Credyd Pensiwn sy’n ddibynnol ar eich incwm. Os ydych ar incwm isel mewn ymddeoliad mae’n bosib bod Credyd Pensiwn ar gael i chi yn ychwanegol i’ch Pensiwn Wladwriaeth.
Os ydych chi dros 65 mae’n bosib bod Credyd Pensiwn ar gael i chi hyd yn oed os yw eich incwm (gan gynwys cynilon) yn:
Yn 2012 bydd polisi pensiwn newydd yn dod i rym lle bydd rhaid i bob cyflogwr a chyflogai gyfrannu:
http://www.thepensionsregulator.gov.uk/docs/workplace-pensions-law-is-changing.pdf
Gallwch gael manylion am bensiynnau preifat yma