S4C

07.12.11

Dodrefnu eich tŷ cyntaf

Gweler oll wythnos yma →

Gwylio eto ar Clic →

Mae prynwyr tai am y tro cyntaf ar gyfartaledd yn gwario mwy nag unrhyw brynwyr eraill am eu bod fel arfer yn dechrau efo chydig iawn neu ddim.

Gall hyn wrthio pobl yn ddyfnach I mewn I ddyled, felly sut allwch chi fynd ati I ddodrefnu eich ty heb wario gormod?

Mae elusennau, siopau rhad arbenigol a siopau clirio tai yn lefydd da I ddechrau chwilio. Dyma wefannau rhai.

http://www.track2000.org.uk/track/index.php
http://www.unitedcarpetsandbeds.com/
http://www.anturwaunfawr.org
http://hmcrecycling.co.uk
http://sofaproject.org.uk
http://new2youwrexham.co.uk

Gallwch ddod o hyd i gwmniau a siopau sy’n arbenigo mewn ail-gylchu dodrefn neu sy’n gwerthu’n rhad drwy chwilio ar y wê neu drwy edrych yn eich papur lleol neu am hysbyseb mewn siop. Gofynnwch i gymdogion hefyd ydyn nhw’n gwybod am lefydd lleol.

Rhaid cofio hefyd mai nid dim ond costau dodrefnu ac addurno sydd ganddo chi wrth brynu tŷ newydd.

• Cymerwch ddarlleniad y mesurwyr dŵr, trydan a nwy a ffoniwch y darparwyr yn syth I roi’r mesuriadau iddyn nhw fel nad ydych chi’n gorfod talu am ddefnydd ynni rhywun arall.
• Mesurydd dŵr. Os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu fel cwpwl a ddim yn defnyddio peiriant golchi llestri, ddim yn defnyddio cawod yn gyson a ddim yn dyfrio’r ardd bob dydd efallai y byddai’n rhatach I chi gael mesurydd dŵr. Ffoniwch eich darparwr am fwy o wybodaeth.
• Llinell ffôn. Checiwch os oes llinell ffôn yn y tŷ. Gyda pobl yn ddibynnol ar ffonau symudol allwch chi ddim cymeryd yn ganiataol bellach y bydd llinell ffôn yno ac mae rhoi un I mewn o’r newydd yn gost ychwanegol.
• Gardd. Mae cynnal gardd yn gallu bod yn waith drud. Ystyriwch gostau cynnal a chadw gardd cyn prynu.
• Byddwch yn wyliadwrus am gael eich temptio gan gynigion ‘prynu nawr talu wedyn’ a 0%. Os nad ydych chi’n talu’r arian pan mae’n ddyledus mae cynigion fel hyn fel arfer yn cario llog uchel.
• Os nad ydych chi’n gallu fforddio rhywbeth, cynilwch ar ei gyfer neu peidiwch a’I brynu!