S4C

14.12.11

Padrig Jones – Foraging for food

Gweler oll wythnos yma →

Gwylio eto ar Clic →

Ffyrdd I gael bwyd am ddim…..

  • Ewch I’ch siop llysiau a ffrwythau lleol ar ddiwedd y dydd a gofyn os ydyn nhw’n llycio unrhywbeth allan
  • Fydd angen I chi edrych drwy’r cwbl, ond fydd rhai yn hollol iawn i neud cawl
  • Cwningen – gofyn I’ch ffarmwr lleol os oes gennych chi rai alle chi gael.  Fel arfer ma’ nhw mwy na hapus I’w rhoi I ffwrdd
  • Mae cwningen yn neud cawl da iawn, alle chi eu torri yn 6 rhan sylweddol: 4 coes a torri’r canol yn 2
  • Tyfwch llysiau eich hunain: http://www.landshare.net/
  • Gofynwch os allech chi newid eitemau gyda garddwyr eraill neu os oes rhywun gyda lot fawr o cynnyrch, gofyn os ydyn nhw yn eu rhoi I ffwrdd
  • Pysgod – mae pysgotwyr lleol yn aml yn rhoi y pysgod na alle nhweu gwerthu peth cyntaf yn y bore.  Yr unig rheswm y mae nhw’n rhoi’r pysgod I ffwrdd yw gan nad yw’n boblogaidd.  Gofyn os alle chi ei gael – lleden fach, macrell, hyrddyn llwyd

Perferddio pysgodyn

Er mwyn perferddio’r pysgod, torwch y stumog, tynwch y perferdd allan, a’I lanhau’n drwyadl.

Coginio pysgodyn fflat ar farbaciw neu o dan y gradell

• I goginio pysgodyn fflat ar farbaciw neu o dan y gradell, torrwch gynffon ac asgell y pysgodyn gyda siswrn gan y gall hyn losgi pan da chi’n dechrau’r broses coginio
• Rhowch y pysgodyn mewn ffoil gyda ychydig o fenyn a lemwn
• Rhowch y pecyn o dan y gradell a’I goginio ar y ddau ochor am 5 munud bob ochor

Coginio pysgodyn ar farbaciw neu o dan y gradell

• Gyda pysgod fel macrell, gorchuddiwch y pysgodyn gyda olew yr olewydd ai rhoi yn syth ar y barbaciw neu o dan y gradell
• Coginwch bob ochor am 5 munud yr un