S4C

Beth yw’r cynllun rhentu-stafell?

Mae’r cynllun yn gynllun y llywodraeth lle allech chi rhentu ystafell o fewn eich cartref, heb orfod dalu trethu hyd at £4,250, mae hwn ar ben eich lwfans personol blynyddol.

Mi fydd angen i chi checio gyda’ch cwmni morgais a’ch cwmni yswiriant cyn I chi wneud unrhyw beth – rhag ofn bod cymal na fydd yn eich caniatau I neud hyn.

Beth am rhentu garij, safle parcio’r car tu allan y ty, neu gardd?

Nid yw eich garij, safle parcio’r car tu allan y ty, neu gardd yn rhan o’r cynllun rhentu stafell. Alle chi enill hyd at £2,500 yn gwneud hyn ond mi fydd angen HMRC newid eich cod trethi os da chi PAYE, felly bydde angen I chi adael iddyn nhw wybod. Os da chi’n ennill mwy na £2,500 yn rhentu y safleoedd yma mi fydd angen I chi ddatgan hyn ar ffurflen trethi ar wahan.

Mae’n rhaid I’r ty fod yn saff, ac mae pethau sydd angen I chi checio. Dyma rhai o’r rheini:

  • Mi fydd angen tystysgrif blynyddol ar offer nwy y ty
  • Mi fydd angen I’r gwely, soffa ayyb cydsynio gyda rheolau tan ewropiaidd
  • Mae angen I electrics y ty cael eu checio pob 5-10 mlynedd

Alle chi rhentu y mwyafrif o 2 stafell o dan y cynllun yma, a gyda cyfanswm incwm o £4,250, (H.Y. £2125 yr ystafell y flwyddyn)