S4C

21.12.11

Sut I neud anrhegion eich hunain

Gweler oll wythnos yma →

Gwylio eto ar Clic →

Jin mafon

Cynhwysion:

70cl Gin
400g mafon
220g Caster Sugar
1 x sinamon
Perarogl almon
3 neu 4 clof
jar 1.5 litr gyda caead sy’n cau

  • Gosodwch y mafon yn y jar
  • ychwanegwch y siwgr
  • ychwanegwch y jin
  • ychwanegwch y cinnamon stick, perarogl almon, ar clof
  • Caewch y lid yn dynn a’I ysgwyd yn dda
  • Siglwch y jar pob dydd am bythefnos neu tan mae’r siwgr yn toddi
  • Yna siglwch y jar unwaith yr wythnos am dri mis
  • Ar ol tri mis hidlwch yr hylif a’u rhoi mewn I foteli
  • Ychwanegwch siwgr unrhyw adeg drwy’r broses

Bisged

Ingredients Cynhwysion

125g/4oz menyn heb halen
55g/2oz Caster Sugar
180g/6oz Fflwr plaen
hambwrdd coginio
Fflwr I ddystio
rholbren
cynheswch y ffwrn i 1900C

  • Curwch y siwgr ar menyn hefo’u gilydd
  • Ychwanegwch y fflwr dipyn wrth dipyn, ac’u cymysgu’n araf.  Peidiwch ei gor-droi!
  • Ychwanegwch dropyn o fenyn wedi meddalu neu dwr os ydio’n rhy sych, ond triwch peidio os da chi’n gallu
  • Unwaith mae’r fflwr wedi ei gymysgu, defnyddiwch eich dwylo I gasglu’r toes
  • Rhowch y toes yn yr oergell am 20 munud mewn cling film – mae hwn yn bwysig iawn
  • Ar ol 20 munud cymerwch o allan or oergell ai roi ararwyneb gyda fflwr, roliwch y toes allan gyda rholbren
  • Rholiwch tan mae o chwarter modfedd o drwch, torwch y siapiau a’I rhoi ar hawbwrdd coginio wedi ei ddystio gan fflwr yn y fwrn ar 190C iw goginio am 15 munud
  • Gwasgarwch gyda siwgr
  • Rhowch y bisgedi ar rhesel I glaeraru

Picl Cymysg pinafal a chili

Cynhwysion:

3 x winiwn
1 x pinafal aeddfed
1 x pupur coch
1 x pupur melyn
1 x pupur oren
1 x chilli coch
1 x chilli gwyrdd
350g o siwgr demerera
2 litr o finegr brag
1 x Tsp Star Anise
1 x Tsp had ffennigl
1 x Tsp Turmeric
1 x Tsp Paprika
1 x Tsp Five Spice
1 x Tsp sinsir wedi ei falu’n fan
bowlen cymysgu mawr
sospan mawr, 3 litr neu fwy

  • Torrwch y winiwns
  • Torwch y top ar gwaelod o’r pinafal I ffwrdd, yna cymerwch y croen I ffwrdd yn ofalus.  Torrwch yn chwarteru, symudwch y calon, a’I dorri yn dalpau garw
  • Ychwanegwch y pinafal I’r winiwn
  • Torrwch y pupur yn dafellau tenau a torrwch y chilli yn fan
  • Ychwanegwch y siwgr, pinafal, winiwns, pupur, perlysiau a’r finegr ir sospan
  • Lledferwch ar dymheredd isel am 30 munud
  • Unwaith mae on barod rhowch y cwbl I mewn I jariau glan wedi eu diheintio, mi fydd y cynhwysion yma yn neud 3 jar haelionus o bicl cymysg
  • Gwnewch yn siwr fod y jariau wedi eu diheintio, rhowch y picl I mewn yn boeth, a’u cau yn syth
  • Mi wneith y picl gadw am 12 mis, ond unwaith I chi ei agor mi fydd angen I chi ei gadw yn yr oergell a’I fwyta’n syth