Neidio at y cynnwys

S4C

NADOLIG 2008

Rhestr Nadolig Wil

Rhestr Nadolig Wil

Bydd digon o antur, cyfeillgarwch a swyn y Nadolig yn y ffilm deuluol, Rhestr Nadolig Wil, i’w darlledu dros yr Ŵyl ar S4C.

Y cerddorion a chyfansoddwyr Caryl Parry Jones a Christian Phillips sydd wedi cyd-ysgrifennu’r ffilm a’r gerddoriaeth, a Dafydd Wyn yw’r cyfarwyddwr.

"Roedden ni eisiau gwneud ffilm Nadoligaidd gyda’ digon o chwerthin, crio a theimlad da i’r teulu oll," meddai Caryl Parry Jones.

Mae Wil yn fachgen wyth mlwydd oed sydd â dychymyg byw a llond sach o obeithion, ac mae’n byw mewn ffermdy gyda’i nain a’i daid tra bod ei dad yn gweithio ar y môr gan geisio hel digon o bres iddo ef a Wil allu byw yn gyfforddus.

Ond daw tro ar fyd wythnos cyn y Nadolig pan fo Siôn Corn yn cwympo oddi ar ei sled ac yn glanio drwy do ysgubor Wil wrth fynd â’r ceirw am dro. Ond nid yw Siôn Corn, sy’n cael ei chwarae gan yr actor comedi Iwan John, yn debyg o gwbl i’r ddelwedd nodweddiadol ohono - ac mae o’n casáu mins peis.

Rhestr Nadolig Wil

"Roedden ni eisiau gwneud Siôn Corn yn fwy dynol," meddai Caryl. "Mae o’n ddiamynedd ac yn drwsgl, ac efallai’n fwy golygus na’r arfer!"

Mae Wil, ei Dad-cu John a Siôn Corn yn mynd ati i geisio perswadio’r pentrefwyr i’w helpu - ond maen nhw i gyd ar restr plant drwg Siôn Corn! Rhaid i Wil lenwi’r gymuned gydag ewyllys da ac ysbryd y Nadolig er mwyn anfon Siôn Corn ar ei ffordd.

Aron Cynan sy’n chwarae rhan Wil, a dyma’r tro cyntaf i’r bachgen ifanc o’r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd actio ar y sgrin. Bydd ef ac Iwan John yn rhannu’r sgrin gyda chast sy’n frith o enwau adnabyddus - gan gynnwys Dewi ‘Pws’ Morris, sy’n chware rhan Tad-cu John, John Ogwen, Ryland Teifi, Rhian Jones, Arwyn Davies a Beth Robert.

Meddai Bethan Eames, Golygydd Cynnwys Ffuglen S4C, "Mae Rhestr Nadolig Wil yn ffilm llawn dychymyg i ddod â’r teulu at ei gilydd dros yr Ŵyl yn swyn a hud y Nadolig."

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales