Neidio at y cynnwys

S4C

Natur Cymru

S4C Green

Tu ôl i'r camera

Ffilmiau tu ôl i'r camera »

Morloi dan y dŵr

Morloi dan y d^wr

Coed Crafnant

Coed Crafnant

Cuddfan ceirw danas

Cuddfan bychod danas

Cuddfan gwiwerod coch

Cuddfan gwiwerod coch

Brain coesgoch mewn ogof

Brain coesgoch mewn ogof

Ystlumod pedol lleiaf

Ystlumod pedol lleiaf

Emma Ford

Dynes Gamera ac Ymchwilydd ar 'Natur Cymru'

Emma Ford

Ar ddechrau'r prosiect, roedd fy ngwaith fel ymchwilydd yn golygu oriau ar y ffôn, gwneud ymchwil ar y We ac ysgrifennu e-byst. Unwaith roedd y wybodaeth sylfaenol gyda ni, a ro'n i wedi dod o hyd i'r sefydliadau, yr arbenigwyr a'r lleoliadau allweddol, ro'n i ar y lôn lot. Bues i'n ymweld â lleoliadau a chwrdd â'r arbenigwyr am y bywyd gwyllt ro'n ni am edrych arno. Mae'n swydd wych i gwrdd â phobl.

Wrth i'r prosiect ddatblygu ac roedd y gwaith ffilmio wedi dechrau, es i ar leoliad gyda Steve [Phillipps]. Ro'n i'n ei helpu i gario cyfarpar, gosod cuddfannau, cael hyd i'r bywyd gwyllt a chadw cwmni iddo mewn lleoliadau pell neu anodd.

mwy »

John Gwyn

Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr 'Natur Cymru'
Perchennog cwmni cynhyrchu Aden

John Gwyn

Beth yw dy gefndir?
Mi wnes i radd a PhD mewn Sŵoleg ym Mhrifysgol Lerpwl. Bu gen i ddiddordeb erioed mewn bywyd gwyllt ac anifeiliaid yn gyffredinol. Mae gen i hefyd ddiddordeb mewn cerddoriaeth.

Beth aeth â ti mewn i gynhyrchu rhaglenni am fywyd gwyllt?
Ar ddechrau'r '80au, ro'n i'n gweithio yn adran patholeg Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd yn ymchwilio i heintiau'r perfedd. Yn ystod y cyfnod yma dechreuais i gyfrannu at raglenni plant ar HTV yn siarad am wyddoniaeth a bywyd gwyllt. Wedyn mi ges i'r cyfle i gyflwyno rhaglen byd natur i blant, 'Llygad Barcud', ond roedd hyn maser maith yn ôl!

mwy »

Steve Phillipps

Dyn camera natur profiadol

Steve Phillips

Dwi wedi bod yn ddyn camera bywyd gwyllt ers 14 mlynedd. Dechreuais i ffilmio yn fy milltir sgwâr yn yr Alban pan on i'n 21 oed. Dwi wedi gweithio gyda chwmnïau annibynnol ac Uned Natur y BBC yn ogystal ag S4C a BBC Cymru. Yn ogystal â gweithio ar Natur Cymru, yn ddiweddar gweithiais i ar gyfres y BBC The Nature of Britain gydag Alan Titchmarsh.

Mae camerâu a chyfarpar HD yn debyg iawn i'r rhai arferol, ond mae'n rhaid bod yn ofalus wrth eu defnyddio gan fod unrhyw wall yn edrych gan mil gwaeth mewn HD. Rydyn ni'n saethu mewn dull graddedig felly mae golwg ffilmig hyfryd ar y delweddau.

mwy »

Paul Kay

Ffotograffydd adnabyddus a dyn camera tanddwr

Paul Kay

Dwi wedi bod yn ffotograffydd hunan-gyflogedig ers 25 mlynedd. Astudiais i Ffotograffiaeth Wyddonol ym Mhrifysgol San Steffan (Coleg Politechneg Canol Llundain oedd e ar y pryd). Tra 'mod i'n gweithio mewn gorsaf Ymchwil Forol yn Iwerddon, bachwyd fy niddordeb gan ffotograffiaeth forol a thanddwr. Dwi'n arbenigo mewn lluniau llonydd tanddwr, ond dwi'n saethu fideo hefyd, ac yn derbyn gwaith comisiwn.

Mae cyfarpar fideo wedi datblygu'n rhyfeddol yn ddiweddar. Mae'r cyfuniad o faint y camera a thechnoleg Diffiniad Uchel (HD) wedi ei gwneud hi'n llawer haws eu defnyddio o dan y dŵr. Yn anffodus, dydy'r môr o gwmpas Cymru ddim yn glir iawn oherwydd ansawdd a symudiadau'r dŵr, felly mae'r camerâu newydd yn help garw. Wedi dweud hynny, mae bywyd morol arfordir Cymru mor ddiddorol ag unman yn y byd.

mwy »

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales