Neidio at y cynnwys

S4C

Natur Cymru

S4C Green

Ffynnon Bywyd

Ffynnon Bywyd: does dim prinder o ddŵr yng Nghymru. Nid yn unig mae'n cynnal bywyd gwyllt, mae'n rhan allweddol o'r tirlun. Mae ein llynoedd, afonydd a chorsydd yn gartrefi i adar, pysgod a chreaduriaid cyfarwydd – a mwy anghyffredin.

Bydd Iolo'n edrych ar drigolion y tiroedd gwlyb a'u lle o fewn y tirlun.

Programme 1
 

Dyddiadur Dyn Camera - ffilmio Llysywod Pendwll yn yr afon

Roedden ni wir eisiau ffilmio'r creaduriaid hyn am eu bod mor ddiddorol, ac yn edrych fel rhywbeth o gyfnod cynhanes. Cawson ni wybod gan Simon Evans, yn Sefydliad Afonydd Gwy a Wysg, y byddan nhw dim ond yn silio o dan Bont Bochrwyd am ychydig o wythnosau ddechrau mis Mehefin. Doedd dim llawer o amser gyda ni, felly. Aeth John a fi i'w ffilmio nhw ar ddiwrnod heulog heb fod yn siŵr beth yn union fuasen ni'n ei gael.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales