Dan y Coed: mae amrywiaeth rhyfeddol o fywyd gwyllt yng nghoedwigoedd Cymru. Mae Iolo'n edrych ar yr adar sy'n nythu a'r anifeiliaid sy'n byw ynddyn nhw. Cawn weld ceirw, morgrug sy'n adeiladu nythod anferth, a'r wiwer goch, sy'n brin iawn erbyn hyn yn sgil dyfodiad y wiwer lwyd.
Mae lleoliad nyth y Barcud Coch yn gyfrinachol, felly allwn ni dim ond ddweud ei bod yng nghyffiniau Canolfan Bwydo Barcutiaid Nant yr Arian. Mae gweithiwr barcutiaid coch, Tony Cross, yn gallu dangos i ni lle roedd y nyth orau i'w ffilmio. Bu'n rhaid i ni gael trwydded gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru am ei bod hi'n rywogaeth wedi ei hamddiffyn.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales