Does dim rhaid mynd yn bell yng Nghymru cyn dod at harddwch yr arfordir. Môr, traethau, mynyddoedd godidog – ac amrywiaeth syfrdanol o fywyd gwyllt ar wyneb y dŵr ac odano. Morloi, dolffiniaid, adar môr o bob math a mwy sy'n denu sylw Iolo yn y rhaglen hon.
Roedd yn rhaid ffilmio'r piod ar benrhyn caregog mewn aber. Felly roedd rhaid gosod y gudd-fan yn y tywyllwch cyn bod yr adar yn dod i glwydo ar y penrhyn. Ar ben hynny, roedd yn rhaid i ni fod yn ofalus o'r llanw am ei fod yn dod i mewn yn gyflym, ac roedd hi'n un o ddiwrnodau mwyaf stormus y flwyddyn! Fel oedd hi, roedd rhaid i John gerdded am filltiroedd i gyrraedd nôl o'r aber oherwydd fod y llanw wedi codi mor uchel.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales