Yn ein Cysgod
Sut mae'r ffordd rydyn ni'n byw yn effeithio ar fywyd gwyllt? Weithiau mae'r gwaith adeiladu a datblygu sy'n graddol ledaenu i gefn gwlad wedi bod o fudd, er mai ar hap a damwain fu hynny. Bydd Iolo'n edrych ar agweddau positif y berthynas rhwng natur a dyn mewn trefi bach a mawr.
Dyddiadur Dynes Gamera – Emma Ford
Bues i'n ffilmio'r pathew am sawl noson. Treuliodd John un noson yn eu ffilmio, a chafodd e syrpreis wrth symud cyfeiriad y camera o'r coed uwchben bocs y pathew nôl i'r bocs ei hun, a gweld tylluan frech yn eistedd ar y bocs. Gwnaeth i John neidio, ond roedd y darn o ffilm yn fonws!
mwy »
Hon oedd y noson gyntaf o ffilmio. Treuliais i sawl noson wedyn yn ffilmio tu allan, gan geisio dal lluniau da am rai oriau wedi'r gwyll ac eto cyn y wawr. Mae bod yn y goedwig yn nhywyllwch y nos yn codi ychydig o ofn ar rywun, ond unwaith ro'n i'n gweld pathew a dechrau ffilmio, ro'n i'n anghofio am hynny.
Rydych chi'n clywed y tylluanod brych o hyd, ac fe laniodd un mewn coeden reit uwch fy mhen. Ar ôl profiad John, ro'n i'n poeni am ddiogelwch y pathew, fodd bynnag. Unwaith, clywais i dylluan yn agos iawn ata i, a ddaeth y pathew ddim yn ei ôl am dipyn. Ro'n i'n gobeithio i'r nefoedd nad oedd e wedi cael ei fwyta! Fe ddaeth e'n ôl yn y pen draw, diolch byth.
Un o uchafbwyntiau'r ffilmio oedd yr adeg ro'n i'n ffilmio oedolyn yn dod yn ei ôl i'r bocs. Ro'n i'n canolbwyntio ar ddrws y bocs a sylweddolais i fod dau bathew, a 'mod i'n gwylio mam a bychan gyda'i gilydd. Roedd rhaid i fi gnoi 'nhafod i beidio gweiddi dathlu. Doeddwn i erioed wedi gweld pathew yn ei gynefin cyn ffilmio hwn, heb sôn am fam a bychan gyda'i gilydd – ac roeddwn i wedi eu dal ar ffilm!
« llai