Y Tir Uchel
Mae'r bywyd gwyllt sy'n byw ar ucheldir Cymru'n werthfawr, ac mae llawer ohono'n brin iawn. Mae hefyd wedi arbenigo i fyw a thyfu mewn llefydd diffrwyth ac anghysbell, ac mae’n bodoli mewn cynefin sy’n aml yn ddigroeso. Bydd Iolo'n dod o hyd i frain coesgoch yn nythu mewn cloddfa yn Eryri, cigfrain yn nythu ar y Mynydd Du ger Brynaman, hebogau tramor yn nythu yn y Rhondda, a geifr gwyllt yn ymladd yn ystod y tymor rhidio ar y Rhinogydd.
Dyddiadur Dyn Camera – Steve Phillipps
Roedd ffilmio'r geifr yn waith caled. Treuliais i oriau'n crwydro'r mynyddoedd gyda 'nghamera yn y glaw yn chwilio amdanyn nhw. Bu bron i fi golli'r rhidio, ond yn ffodus, roedd un afr yn dal i fod yn ei thymor. Roedd y bychod i gyd ar ei hôl hi felly ces i well luniau na falle byddwn i wedi eu cael yng nghanol y tymor rhidio.
mwy »
Mae'r geifr gwyllt yn anodd eu dilyn. Er nad ydyn nhw'n ofnus, dydyn nhw ddim yn hoffi pobl yn mynd yn agos atyn nhw, felly maen nhw'n symud o hyd wrth i chi eu dilyn nhw, sy'n golygu fod yn rhaid symud gyda nhw trwy'r dydd gyda chyfarpar trwm ar diriogaeth anodd.
Gyda dim ond yr un afr yn ei thymor, roedd y bychod yn sefyll o gwmpas a'i dilyn hi bob tro roedd hi'n symud. Pan oedd un yn ceisio rhidio gyda hi, gynted oedd e'n codi drosti byddai un arall yn ei wthio oddi arni fel nad oedd cyfle ganddo!
Mae'r mynnod geifr yn annwyl iawn, ond mae'n anos fyth i weithio gyda nhw am ddau reswm. Maen nhw'n llai o faint, felly mae'n rhaid bod yn agos i gael llun da. Ac mae'r mamau'n nerfus pan fod mynnod gyda nhw, felly maen nhw'n symud i ffwrdd gynted byddan nhw'n eich arogli.
Mae dwy ochr i'r ddadl am p'un ai bod lle i'r geifr yn Eryri, ond alla i ddim â dychmygu'r mynyddoedd hebddyn nhw!
« llai