Neidio at y cynnwys

S4C

Natur Cymru

S4C Green

Dyddiadur Fideo


Ffynnon Bywyd

  • Gwyach Fawr Gopog

    Gwyach fawr gopog yn pysgota.

    Wedi ei ffilmio yng Ngwlyptiroedd Casnewydd.

    Nofiwr a phlymiwr penigamp.

    Mae'n bwyta pysgod gan fwyaf, ond hefyd crestogion mân, pryfed a brogaod bychain.

  • Llysywod Pendwll Môr

    Ffilmiwyd ym Mhont Bochrwyd, Llyswen, yn afon Gwy.

    Mae'r llysywod pendwll môr yn nofio i fyny'r afon i silio.

    Maen nhw dim ond yn silio wythnosau cyntaf mis Mehefin.

    Mae'r llysywod yn symud cerrig i fwrw sil yn y graean.

    Ar ôl silio, mae'r oedolyn yn marw.

Tu ôl i'r camera

  • Morloi o dan y dŵr

    Llŷn Peninsula

    Llogodd Paul, y dyn camera tanddwr, a'r tîm plymio long o Bwllheli i fynd nid nepell o arfordir Abersoch, ardal sy'n adnabyddus am ei morloi. Fe blymion nhw am tua awr i gael lluniau o'r morloi.

    Mae'r morlo llwyd yn un o ddwy rywogaeth o forloi a welir oddi ar arfordir Prydain. Y morlo cyffredin ydy'r llall. Mae'r morlo llwyd o faint canolig, gyda'r gwrywod yn cyrraedd 2.5-3 medr o hyd ac yn pwyso hyd at 300 kg. Mae'r benywod yn llai – 1.6-2.0 medr o hyd a 100-150 kg o bwysau. Pysgod o wahanol fathau yw eu bwyd, a gallant blymio i ddyfnder o 70 medr neu fwy i'w dal.

  • Coedwig Coed Crafnant gyda braich jib (dyfais â chamera ar y naill ben a gwrthbwys ac offer llywio ar pen arall. Mae'n cael ei ddefnyddio i ffilmio pethau uchel neu isel, ac mae'n gallu symud mewn arc eang yn llorweddol neu yn fertigol, felly mae'n hyblyg iawn).

    Defnyddiodd Steve, y dyn camera, a John, y cynhyrchydd, fraich jib i gael lluniau da o ffyngau, cennau a mwsoglau yn y coetir hynafol hwn, sy'n gartref perffaith iddyn nhw am ei fod yn wlyb ac yn llaith.

    Mae Coed Crafnant yn un o ddau goetir o fewn Gwarchodfa Coed Crafnant. Coed Dolbebin ydy'r llall. Mae'r Warchodfa'n 49 hectar o faint.

  • Ceirw Danas Cuddfan Sgaffaldau

    Lleoliad – Coed-y-Brenin, ger Dolgellau. Mae Coed-y-Brenin yn ne Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'n cwmpasu ardal o ryw 9,000 erw o gwmpas cymoedd yr afonydd Mawddach, Eden, Gain a Wen. I'r gorllewin mae mynyddoedd y Rhinog, i'r dwyrain mae'r Rhobell Fawr ac i'r de mae Cader Idris.

    I ffilmio ceirw Danas, roedd yn rhaid i ni godi cuddfan ar sgaffald fel bo Steve, y dyn camera, yn rhy uchel i'r ceirw ei weld neu ei arogli. Mae ceirw Danas yn byw mewn grwpiau ar wasgar yn y goedwig. Maen nhw'n crwydro'n helaeth heb aros yn hir mewn un man.

  • Cuddfan y Wiwer Goch

    Cuddfan y Wiwer Goch, Lleoliad – ger Brechfa.

    Roedd yn rhaid rhoi cnau cyll allan yn abwyd i ddenu'r gwiwerod i'r lleoliad.Mae Huw [Denman, gweithiwr Coedwigaeth] yn gwybod eu bod nhw yn y cyffiniau am ei fod yn gosod trapiau i wiwerod llwyd yno, ac mae safle fwydo i'r wiwer goch gerllaw. Roedd yn rhaid i Steve, y dyn camera, eistedd yn y cuddfan am tua chwech awr y dydd am ddau ddiwrnod o'r bron. Mae niferoedd y wiwer goch ym Mhrydain wedi gostwng yn sylweddol ers i'r wiwer lwyd gyrraedd o Ogledd America. Ar ei geni, mae gwiwer yn pwyso 10-15 gram (mesur llwy fwrdd) ac yn ddall ac yn fyddar.

  • Brain coesgoch mewn ogof

    Brain coesgoch mewn ogof. Lleoliad – Penrhyn Llŷn

    Roedd yn rhaid i Steve, y dyn camera, osod ei guddfan mewn ogof. Roedd hyn y beryglus am fod gagendor dwfn o dan geg yr ogof, felly roedd yn hanfodol i Steve ddefnyddio harnais a rhaffau er mwyn bod yn ddiogel. Mae'r adar yma wedi eu hamddiffyn, felly roedd yn rhaid cael trwydded gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac roedden ni'n gweithio o dan oruwchwyliaeth Kelvin o'r Welsh Raptor Group.

  • Ystlumod Trwyn Pedol Bychain

    Ystlumod Trwyn Pedol Bychain. Lleoliad – Gwarchodfa Natur Hafod Garregog, un o 50 o warchodfeydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

    Roedd rhaid i ni ddefnyddio ffilm is-goch i ffilmio'r ystlumod yng nghroglofft y sgubor. Er mwyn osgoi tarfu ar yr ystlumod, ffilmion ni o'r tu allan i'r groglofft, felly mae'r camera'n cael ei reoli o bell ac rydyn ni'n gwylio'r lluniau ar fonitor. Roedd yn rhaid i ni gael trwydded i ffilmio, a'i wneud dan arweiniad Doug Oliver, gweithiwr gyda CCC. Profiad braf, achos fe gawson ni wybodaeth newydd am ymddygiad yr ystlumod cyn iddyn nhw fynd allan i fwydo.

Ychwanegolion

  • Ffilmio Tanddwr

    Lluniau o'r bywyd gwyllt anhygoel sy'n byw oddi ar arfordir Cymru

  • Pryfed

    Amrywiaeth o'r creaduriaid bychain o bob cwr o Gymru.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales