Neidio at y cynnwys

S4C

Noson Lawen

  • Bob nos Sadwrn 20:20

Croeso i'r Noson Lawen Newydd

Bydd y tenor adnabyddus o Fôn, Gwyn Hughes Jones, yn canu ochr-yn-ochr gyda'i wraig, yr Americanes, Stacey Wheeler, wrth i gyfres ddiweddaraf cyfres adloniant S4C, Noson Lawen, ddychwelyd.

Mae Stacey, sy'n wreiddiol o Bennsylvania, wedi byw yng Nghymru ers dros 5 mlynedd ar ôl iddi gwrdd â Gwyn pan fu'r ddau yn gweithio mewn opera yn Chicago. Bellach, mae Stacey yn dysgu'r Gymraeg a dyma'r tro cyntaf i'r ddau berfformio gyda'i gilydd ar y teledu.

Yn y rhaglen agoriadol bydd Gwyn a Stacey yn canu eu fersiwn nhw o'r gân adnabyddus 'Hywel a Blodwen'.

Mewn cyfweliad arbennig gyda'r cyflwynydd Mari Lovgreen, bydd y ddau yn cofio cyfarfod am y tro cyntaf ac yn son am eu perthynas a'u gyrfaoedd llewyrchus ym myd opera.

Ymysg y perfformwyr eraill fydd yn diddanu cynulleidfa Glannau Menai yn rhaglen gyntaf y gyfres fydd 4 Girls 4 Harps, Mirain Haf, Nathan Williams, Eilir Jones fel ei gymeriad Ffarmwr Ffowc, Côr Ieuenctid Môn a'r gantores leol Casi Wyn.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales