Pontypridd
Pontypridd ydy lleoliad y rhaglen heno a dyma'r tro cyntaf i'r Noson Lawen ymweld â'r dref hynafol. Cynhaliwyd dathliadau di-ri y llynedd pan recordiwyd y rhaglen hon, gyda'r dref yn dathlu dau benblwydd go arbennig – yr hen bont yn ddau gant a hanner a'n hanthem Genedlaethol, a gyfansoddwyd ar lannau'r afon Rhondda yn gant a hanner. Ifan Gruffydd, yr arweinydd poblogiadd a phrofiadol o Dregaron sy'n cyflwyno’r llu o artistiaid i lwyfan y Noson Lawen heno; noson a recordiwyd yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen Wen.
Catrin Finch. Yn seren rhyngwladol sydd wedi mynd â'i chrefft i bob cwr o'r byd. Mae Catrin wedi llwyddo i weddnewid delwedd yr offeryn ar ei phen ei hun ac wedi cael y fraint o berfformio ar rai o lwyfannau enwoca'r byd wrth wneud hynny. Yn wreiddiol o Lan-non yng Ngheredigion mae'n byw erbyn hyn yn ardal Caerdydd. Hoffai criw'r Noson Lawen longyfarch Catrin a Hywel ei gŵr ar enedigaeth eu merch fach, Ana Gwen.
www.catrinfinch.com
Huw Chiswell. Wyneb cyfarwydd arall ydy'r canwr-gyfansoddwr Huw Chiswell. Er ei fod yn yn byw yng Nghaerdydd ers nifer o flynyddoedd bellach mae ei wreiddiau yn ddwfn yng Nghwm Tawe ac mae ôl bywyd cymoedd y de diwydiannol yn drwm ar ei ganeuon. Huw gyfansoddodd rhai o'n caneuon cyfoes mwyaf gafaelgar megis Y Cwm, Rhywbeth O'i Le a Dwylo Dros y Môr. Yn ymddangos gyda Huw ar y rhaglen fe fydd Non Parry a Christian Phillips.
www.sain.wales.com
Paul Carey Jones. Brodor o Gaerdydd ydy Paul. Wedi cyfnod ym Mhrifysgol Caergrawnt aeth ymlaen i astudio yn yr Academi Frenhinol yn Llundain ac yn ei gyfnod yno fe gipiodd un o brif wobrau ar gyfer cantorion ifanc yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001 – Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts. Yn dilyn ei lwyddiant yn y gystadleuaeth aeth ymlaen i gwblhau cwrs ôl-radd yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Erbyn hyn mae'n ennill ei fywoliaeth yn perfformio fel unawdydd gyda chwmnïau opera proffesiynol ar hyd a lled y wlad ac mewn gwledydd tramor.
www.paulcareyjones.com
Côr Godre'r Garth. Sefydlwyd y Côr nôl ym 1974 gan Wil Morus Jones i hybu Cymreictod mewn ardal a oedd ar y pryd yn ail ddarganfod pwysigrwydd yr iaith a’r diwylliant Cymraeg. Mae'r Côr wedi cael llwyddiant hefyd ar lefel Genedlaethol ers y cychwyn cyntaf gan ennill yn gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd. Yn ddiweddar fe gymerwyd yr awenau gan yr arweinydd ifanc, brwdfrydig Eilir Griffiths - ac o dan ei ddylanwad ef fe brofodd y Côr ragor o lwyddiant gan gipio'r brif wobr yn y Genedlaethol am y dair mlynedd ddiwethaf. Gyda Branwen Evans yn cyfeilio.
www.corgodrergarth.com
Iwan John. O Grymych yn wreiddiol y daw Iwan John; yn un o dri brawd â ganddynt synnwyr digrifwch go arbennig. Mae Iwan wedi hen ymgartrefu yng Nghaerdydd gan ddilyn gyrfa lwyddiannus fel actor a chomedïwr. Ymddangosodd sawl gwaith ar gyfresi Noson Lawen dros y blynyddoedd, a hynny yn portreadu cymeriadau anghall bob tro. Teyrnged i Cath Jones, Pobol y Cwm, fydd ganddo yn y rhaglen yma.