Bronymaen, Meifod
O fferm Bronymaen ym mhentref Meifod yn ardal hyfryd Sir Drefaldwyn y daw'r Noson Lawen heno, ac Elen Rhys, merch sydd wedi ei geni a'i magu yn y sir fydd yn cymryd yr awenau. Er nad ydy hi'n ddieithr i'r llwyfan enwog; wedi cymryd rhan mewn nifer o sgetsus ac eitemau digri dros y blynyddoedd; dyma'r tro cyntaf i Elen arwain y Noson Lawen.
Rhys Meirion. Mae bron i ddeng mlynedd wedi mynd heibio ers i Rhys gyfnewid ystafell ddosbarth am y llwyfan canu proffesiynol. Yn ystod y cyfnod hwnnw gwelwyd ei yrfa yn mynd o nerth i nerth, gyda galw mawr am ei wasanaeth ym myd yr opera, y llwyfan cyngerdd a'r byd darlledu, a hynny mewn lleoliadau mor amrywiol ag Awstralia, Lithuania, Frankfurt a Hong Kong yn ogystal â Lloegr ac yma yng Nghymru.
www.harlequin-agency.co.uk
www.sain.wales.com
Elin Fflur a'r band. Merch ifanc o Lanfairpwll sy'n un o berfformwyr disgleiriaf Cymru. Yn dilyn llwyddiant cynnar gyda'i grwp Carlotta; ennill Cân i Gymru yn 2002 a dod yn brif leisiydd gyda'r grŵp gwerin Y Moniars, aeth Elin ymlaen i ffurfio'i band ei hun gan gyhoeddi dwy CD hynod lwyddiannus; un gyda Caryl Parry Jones yn cynhyrchu a'r llall yng ngofal aelodau'r band. Yn ddiweddar cyhoeddwyd cryno ddisg newydd yn dwyn y teitl 'Ysbryd Efnisien'. Gyda Siôn Llwyd, Jason Huxley ac Aled Wyn.
www.elinfflur.com
www.sain.wales.com
Eilir Jones, yr enwog Ffarmwr Ffowc sydd wedi teithio o Glwyd i Bowys i rannu gyda’r gynulleidfa ei weledigaeth unigryw am y byd a’i bethau.
Côr Gore Glas. Côr ifanc cymysg o ardal Bro Ddyfi a sefydlwyd gan eu harweinydd presennol Magwen Pughe. Mae 2007 yn addo i fod yn flwyddyn brysur iawn iddyn nhw gan y bydd y Côr yn dathlu deng mlynedd ers ei sefydlu; penllanw’r dathlu fydd cyhoeddi cryno ddisg newydd sbon. Gyda Lydia Jones yn cyfeilio.
www.sain.wales.com
Phil a'r Monics. Pedwar o fechgyn o ardal Rhuthun ydy Phil a'r Monics – Phil, Robin a dau Huw! Mae'r pedwar yn aelodau brwd o Gôr Rhuthun a'r Cylch ers blynyddoedd ac wedi dod ynghŷd i ffurfio'r pedwarawd tua pedair blynedd yn ôl er mwyn cael "ychydig bach o hwyl", ac mae'r elfen o "hwyl" hynny'n sicr yn amlwg yn eu perfformiadau.