Pontrhydfendigaid
Nigel Owens. Yn frodor o Gwm Gwendraeth, mae personoliaeth hoffus a direidus Nigel wedi ei wneud yn un o hoelion wyth y Noson Lawen ers blynyddoedd. Mae hefyd yn adnabyddus wrth gwrs fel un o ddyfarnwyr rygbi amlyca Cymru ac mae'r gwaith wedi mynd ag ef i bob cwr o'r byd.
Ar Log. Roedd 2006 yn flwyddyn go arbennig i grŵp gwerin proffesiynol cyntaf Cymru gan iddyn nhw ddathlu deng mlynedd ar hugain o berfformio gyda'i gilydd. Dros y blynyddoedd maen nhw wedi teithio ar draws Ynysoedd Prydain, Ewrop, Gogledd a De America yn hyrwyddo cerddoriaeth a chaneuon Cymru, ac wedi cyhoeddi tair ar ddeg albwm a llyfr yn olrhain eu hanes yn ystod y cyfnod. Yr aelodau ydy Dafydd Roberts, Gwyndaf Roberts, Dave Burns, Iolo Jones, Graham Pritchard a Geraint Glynne Davies.
www.sain.wales.com
www.carreg-gwalch.co.uk
Aled Hall. Y tenor adnabyddus o Bencader sy'n hen ffefryn ar lwyfan y Noson Lawen. Mae Aled wedi cael cryn lwyddiant ar lwyfannau operatig dros wledydd Prydain ac yn ddiweddar bu'n perfformio gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm a gyda Chwmni Opera Holland Park yn Llundain.
www.harlequin-agency.co.uk
Côr Ger y Lli. Sefydlwyd y côr ifanc yma gan yr arweinydd Gregory Vearey-Roberts nôl ym mis Medi 2004, o dan adain aelwyd yr Urdd Aberystwyth. Ac er mai ond rhyw dair blynedd sydd ers iddyn nhw ffurfio fe gawson nhw lwyddiant ysgubol yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe drwy ddod i'r brig yng nghystadleuaeth y Corau Ieuenctid. Maent hefyd wedi cyfrannu ar gryno ddisg aml-gyfrannog o brif gorau gwerin Cymru.
www.avvataber.f2s.com/gerylli
www.sain.wales.com
Catrin Dafydd. Mae hanes dewr yr ymfudo i'r Wladfa ym Mhatagonia wedi dal dychymyg y genedl hyd heddiw ac mae'n braf gallu croesawu rhai o ddisgynyddion yr arloeswyr cynnar yn ôl i'r 'Hen Wlad'. Mae Evita Morgan yn ymwelydd cyson â Chymru ond dydy ei dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd o'i chwmpas ddim bob tro yn taro deuddeg, fel y cawn weld heno.
www.catrindafydd.com
Einir Dafydd. Cantores ifanc o Foncath yn Sir Benfro. Daeth Einir i sylw'r genedl pan enillodd gystadleuaeth dalent y Waw Ffactor ar S4C yn 2006 a hithau ond yn un ar bymtheg oed. Bydd yn canu dwy gân oddi ar ei chryno ddisg newydd o'r enw Y Garreg Las ar y rhaglen heno. Gyda Steffan Rhys, Christian Phillips a band Noson Lawen yn cyfeilio iddi.
www.s4c.co.uk/wawffactor