Gwalchmai
O Bafiliwn Sioe Môn yng Ngwalchmai y daw'r Noson Lawen yr wythnos hon a'r digrifwr o Lannefydd, Dilwyn Pierce fydd yn cymryd yr awenau. Mae Dilwyn yn gyfarwydd iawn â llwyfan y Noson Lawen, ac yn dilyn ei lwyddiant yn y cyfresi cynnar, cafodd gyfres ei hun ar S4C yn 2000 a fu'n hynod boblogaidd gyda'r gwylwyr. Ar hyn o bryd mae'n teithio gyda sioe gomedi 'Y Tri Digri' gyda'r comediwyr Glyn Owens a John Sellers.
Bryn Fôn a'r band. Ers iddo ddechrau perfformio gyda'r grwp Crysbas nôl yn y 70'au tyfodd apêl a phoblogrwydd Bryn yn gyson a bellach mae'n un o'n prif gantorion ni yma yng Nghymru gydag apêl sy'n cwmpasu cynulleidfa eang. Mae hefyd yn actor o fri; wedi perfformio mewn nifer o ddramâu llwyfan a chyfresi teledu dros y blynyddoedd gan anfarwoli ambell i gymeriad fel 'Les' yn Talcen Caled a 'Tecs' yn C'mon Midffîld.
www.sain.wales.com
www.labelabel.co.uk
Dyfan Roberts. Bu’r Hen Ddyn Budr yn rhannu’i brofiadau amheus gyda chynulleidfaoedd ers nifer o flynyddoedd bellach. Yn y rhaglen heno cawn glywed am ei anturiaethau ar Ynys Môn a bydd hefyd yn troi ei law at yr hen grefft, Cerdd Dant.
Aeron Gwyn. Unawdydd ifanc o Gaergeiliog ydy Aeron. Mae'n wyneb cyfarwydd ar lwyfan cyngerdd ac eisteddfod ac yn ddiweddar bu allan yn yr Unol Daleithiau yn perfformio. Ond heb os, uchafbwynt ei yrfa hyd yma oedd cipio'r Rhuban Glas yn Eisteddfod Eryri a'r cyffiniau. Gydag Annette Bryn Parri yn cyfeilio.
Adlais. Ffurfiwyd y côr cymysg yma gan Mary S. Jones ym 1991 ac yn dilyn ei hymadawiad i'r Unol Daleithiau yn 2004, cymerodd Elen Wyn Keen yr awenau. Mae'r aelodau yn dod o bob cwr o Fôn ac ambell un yn dod gyda'i basport o dros y bont! Yn ddiweddar buont yn perfformio 'Dirion Dir' gan Gareth Glyn; darn a gafodd ei gomisiynu i ddathlu Eisteddfod Môn yn 100 oed. Gydag Olwen Jones yn cyfeilio.
www.adlais.com
Nishen. Deuawd gymharol newydd o Ben Llŷn ydy Nishen. Dechreuodd Anni gyfansoddi caneuon pan oedd hi tua pymtheg oed cyn mynd ati i berswadio ei ffrind Fflur i ymuno â hi - a ffurfio Nishen. Mae'r ddwy bellach yn y Coleg yng Nghaerdydd ac yn dal i ganu! Cyhoeddwyd eu cryno ddisg cyntaf o'r enw Gwg y Mwg y llynedd a chawn ddwy gân oddi ar y casgliad hwnnw ar y rhaglen heno.
www.gwynfryncymunedol.co.uk