Pontypridd

Daw'r Noson Lawen yr wythnos hon o Bontypridd - dim ond yr ail dro erioed i'r rhaglen ddod o'r dref hynafol; a hon hefyd fydd y rhaglen olaf yn y gyfres bresennol. Yn enedigol o Frynaman, y comedïwr Glan Davies fydd yn cyflwyno'r llu o artistiaid i lwyfan y Noson Lawen. Mae Glan yn ddigrifwr ac yn actor talentog ac yn wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfannau Cymru ac ar S4C. Mae o wedi ymgartrefu yn Aberystwyth ers sawl blwyddyn ac wedi arallgyfeirio yn ddiweddar; mae bellach yn cael y fraint o arwain teithiau o Gymry Cymraeg ar wyliau ar hyd a lled Ewrop.

Dafydd Iwan. Un arall o feibion Brynaman, mae Dafydd wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ers dros ddeugain mlynedd gyda'i ganeuon didwyll, ysbrydoledig ac mae'n dal i ddenu cynulleidfaoedd brwdfrydig o bob oed. Mae wedi bygwth rhoi'r gorau iddi droeon ond oherwydd bod perfformio yn y gwaed, a'r galwadau mynych am ei wasanaeth mae'n braf gallu cofnodi ei fod am ddal ati am gyfnod eto.
www.sain.wales.com

Côr Meibion Pen-y-bont-ar-ogwr. Ers ei sefydlu nôl ym 1960, mae'r Côr wedi cystadlu a chael llwyddiant mewn eisteddfodau a gwyliau led led y wlad. Daethant i'r brig yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd; ennill categori y Corau Meibion yng nghystadleuaeth Côr Cymru ar S4C ac yn ddiweddar wnaethant ennill yr 'hat trick' yng Ngŵyl Cheltenham gan ddod adre gyda'r Gwpan Aur! Dan arweiniad John Jenkins a gyda Rhiannon Williams-Hale yn cyfeilio.
www.bridgendmalechoir.co.uk

Don Davies. Gyda'i hiwmor sych unigryw mae Don Davies wedi bod yn rhan annatod o deulu'r Noson Lawen ers ei ymddangosiad cyntaf tua deng mlynedd yn ôl. O'r eiliad y daw ar y llwyfan gyda'r olwg diwedd y byd ar ei wyneb mae'r gŵr o Fronwydd ger Caerfyrddin yn ennyn ymateb gan y gynulleidfa; ymateb sydd yn cryfhau wrth iddo eu tywys drwy hanesion digalon a'r bywyd caled (dychmygol wrth gwrs!) y mae'n ddioddef gyda'i wraig druan.

Llinos Thomas. Cantores ifanc o Bontantwn yn Sir Gaerfyrddin ydy Llinos. Yn ddiweddar bu'n perfformio mewn sioe i blant yng Nghanolfan y Mileniwm a chafodd ran flaenllaw yng nghyngerdd yr Urdd yn Rhuthun. Ond heb os, un o uchafbwyntiau ei gyrfa hyd yma oedd cael rhannu llwyfan gyda neb llai nag Elton John. Gyda Non Parry a Christian Phillips.

Maharishi. Daeth y bois yma at ei gilydd tra roedden nhw'n y Coleg ym Mangor rhyw ddeng mlynedd yn ôl ac mae nhw wedi cyhoeddi tair cryno ddisg ers hynny. Mi wnaethant ennill wobr band y flwyddyn yng ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru yn 2000 ac enillodd y gân 'Tŷ ar y Mynydd' brif wobr Mawredd Mawr Radio Cymru yn 2003. Ac fe gawn berfformiad o'r glasur honno ar y rhaglen heno.