Bronymaen, Meifod
Tudur Owen, yr arweinydd poblogaidd a phrofiadol o Fôn fydd yn cyflwyno'r llu o artistiaid i lwyfan y Noson Lawen, o bentref Meifod yn ardal hyfryd Sir Drefaldwyn.
Yn ogystal â bod yn berfformiwr ac yn actor llwyddiannus mae gan Tudur hefyd dalent fel awdur gan iddo ddod i'r brig mewn cystadleuaeth i sgriptwyr comedi ar raglen 'The last Laugh' ar BBC 3.
John ac Alun. Y ddeuawd canu gwlad boblogaidd o Dudweiliog yn Llŷn sydd wedi ennill lle arbennig yng nghalon y genedl ers dechrau'r 90au gyda'u perfformiadau a'u caneuon didwyll. Wrth lunio rhestr artistiaid Noson Lawen, artistiaid fydd yn sicrhau cynulleidfa frwd a niferus, bydd enw John ac Alun bob tro ar ben y rhestr honno. Yn ogystal â diddanu ymhob cwr o Gymru, aeth y ddeuawd â'u perfformiadau cerddoriaeth i sawl gwlad arall gan gynnwys perfformio yn y Ryman Auditorium yn Nashville, Tennessee; cartref ysbrydol Canu Gwlad y byd. Cyhoeddwyd eu cryno ddisg ddiweddaraf, Hel Atgofion, ychydig cyn y Nadolig.
www.sain.wales.com
Dewi Ellis Jones. Cerddor ifanc o Lanfairpwll ar Ynys Môn ydy Dewi – dyn yr offerynnau taro! Ers iddo raddio o Brifysgol Bangor yn 2001 mae wedi ennill gradd MA mewn perfformio a Diploma LRSM o'r Coleg Cerdd Brenhinol. Ar hyn o bryd mae'n gweithio tuag at ei ddoethuriaeth mewn perfformio ynghyd â dysgu offerynnau taro yn y Brifysgol ym Mangor ac yng Nghanolfan Gerdd William Mathias. Mae'n gyn enillydd Ysgoloriaeth S4C ac yn 2005 cyhoeddodd ei gryno ddisg gyntaf o'r enw Zimba Zamba.
www.dewiellisjones.com
www.sain.wales.com
Nerys Jones. Un o ferched Sir Drefaldwyn; wedi ei geni a'i magu yn Llanfair Caereinion, nepell o bentref Meifod. Ar ôl ennill gradd yng Ngholeg Cerdd Glasgow bu'n aelod o Gwmni Opera Cenedlaethol Lleogr am chwe mlynedd cyn dychwelyd nôl gartref. Ond roedd perfformio yn y gwaed ac mae’n cyfrif perfformio mewn Opera draw yn Adelaide yn Awstralia fel uchafbwynt yn 2006. Ers recordio'r rhaglen hon mae Nerys wedi mentro ar daith gyffrous arall, gan iddi hi a'r teulu ymfudo i'r Unol Daleithiau ac ymgartrefu yn ninas Seattle. Hoffai criw y Noson Lawen ddymuno pob llwyddiant iddi draw yno.
Côr Aelwyd Bro Ddyfi. Er mai cwta fis cyn Eisteddfod Sir yr Urdd yn 2005 y sefydlwyd y côr, cawsant lwyddiant ysgubol yn y Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gan gipio'r wobr gyntaf ym mhrif gystadleuaeth y corau ar lwyfan Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Bydd y bechgyn hefyd yn hawlio llwyfan y Noson Lawen heno, ac mae ganddynt hwythau record go dda yn Eisteddfodau'r Urdd gan ddod i'r brig yng nghystadleuaeth y Corau Meibion am y ddwy flynedd ddiwethaf. Dan arweiniad brwdfrydig Magwen Pughe a gyda Fflur Pughe yn cyfeilio.