|
Roedd Math fab Mathonwy yn arglwydd ar Wynedd, ac roedd angen merch arno oedd yn wyryf. Bu cryn chwilio am y wyryf hon, ac un o'r rhai a gynigwyd ger ei fron oedd Arianrhod, chwaer y dewin Gwydion.
Fel prawf o'i gwyryfdod bu'n rhaid iddi gamu dros ffon hud. Ond wrth iddi gamu dros y ffon, dyma faban bach yn syrthio ohoni, oedd yn profi nad oedd yn wyryf. Trodd ar ei chynffon a chychwynnodd tuag at y drws pan ddisgynnodd rhywbeth arall, llawer llai allan ohoni. Cipiodd Gwydion ef cyn i neb arall ei weld, ac fe ddatblygodd yn faban cryf.
Mawr oedd cywilydd Arianrhod, ac oherwydd ei chywilydd tyngodd na fyddai'r baban fyth yn cael enw, arfau na gwraig.
|