|
Beth oedd dy ymateb cyntaf pan ges di dy wahodd i weithio ar y prosiect hwn?
Pan ofynnwyd i mi fod yn rhan o'r prosiect hwn yn y lle cyntaf roeddwn yn hynod gynhyrfus oherwydd roeddwn wedi gweld ychydig o'r gwaith datblygu'r sgript ac roeddwn wrth fy modd yn dychwelyd i Gymru wedi i mi fod yn gweithio ar Gwr y Gwyrthiau oedd wedi ei lleoli'n gyfangwbl ym Mhalesteina. Roeddwn eisiau dychwelyd i awyr lwyd a'r glaw a'r amgylchedd a'r cefndir y mae'r Mabinogi wedi ei leoli ynddo.
Ym mha ffordd y mae Y Mabinogi yn gweithio fel addasiad ar gyfer y sgrîn ac a gododd unrhyw broblemau?
Mae storiau'r Mabinogi yn berffaith ar gyfer ffilm oherwydd eu bod ar un llaw yn llawn digwyddiadau gwych ac mae hud ynddynt ond mae iddyn nhw hefyd sail go iawn mewn bywyd go iawn, am fod y storiau'n ymwneud â phobl yn rhyngweithio â'i gilydd. Er bod ganddynt gewri a thrawsnewidiadau hudolus a babis yn cael eu geni mewn modd rhyfedd a hudolus, maen nhw'n dal i fod ynglyn â sut mae pobl yn gweithio ac uniaethu â'i gilydd ac yn syrthio mewn cariad â'i gilydd a sut maent yn gwneud drwg i'w gilydd a'r ffordd y maent yn dial. Dyna'r ochr wych i'r Mabinogi am fod gymaint o sgôp iddo ar ffilm. Mae'n weledol dros ben ac mae nifer o bethau sydd, mewn ffordd, yn cael eu gadael yn aneglur yn y stori ei hun e.e. maent yn trafod rhywbeth ond nid ydynt yn ei ddisgrfio felly mae'n wych i gyfarwyddwyr oherwydd y gallaf ddweud "Dwi'n credu ei fod am edrych fel hyn". Er enghraifft, yn y stori, mae rhywbeth sy'n dod a dwyn babi a cheisio dwyn merlen ac yn y stori fe'i ddisgrifir fel "peth" yn unig felly roedd yn rhaid i mi geisio gweithio allan tebyg i beth oedd y "peth" yma yn mynd i edrych. Anhawster y Mabinogi yw eu bod yn storiau hynafol felly maent yn seiliedig ar feddylfryd llwythau'r 6ed a'r 7fed ganrif pan oedd pobl yn gwneud pethau am resymau na allwn weithio allan neu o leiaf nad ydym yn gallu cydymdeimlo â nhw. Mae llawer o bethau yn ymwneud â feddylfryd y llwyth sydd mewn bodolaeth heddiw yn y byd modern; materion sy'n ymwneud â pherthnasau grwpiau bychain a'i gilydd. Ond y dyddiau hyn mae gan gymdeithas gyfreithiau ac arferion, ac rydym ymhell o sefyllfa lle mae canlyniadau gweithredoedd yn ymddangos yn non sequitur. Yn Y Mabinogi mae rhywbeth yn digwydd ac mae ymateb un o'r cymeriadau yn ymddangos yn hollol ryfedd. Roedd yn rhaid i mi weithio hynny allan, fel ein bod yn gallu deall pam fod pobl yn gwneud pethau.
Heblaw am eich hunain (Cartwn Cymru), pwy arall sydd wedi bod yn gweithio ar gynhyrchiad Y Mabinogi?
O'r dechrau, fe sylweddolom ei fod yn brosiect eitha' mawr ac fe wyddom nad oedd hi'n bosib gwneud popeth yma. Oherwydd y math o animeiddiad ydoedd - mae gennym gymeriadau byw - mae'n eitha' anodd dod o hyd i animeiddwyr sy'n gallu gwneud animeiddio byw. Gallwch ddod o hyd i animeiddwyr gwych sy'n dda am wneud cartwnau ond mae hi'n eitha' anodd dod o hyd i rai sy'n gallu gweithio â chymeriadau byw. Felly roedd yn rhaid i ni chwilio o amgylch nifer o gwmniau i geisio dod â thîm at ei gilydd. Mae gan griw Moscow (Christmas Films) griw o bobl sydd wedi eu hyfforddi i safon uchel sy'n gallu darlunio'n dda iawn, felly fe wnaethont y rhan fwyaf o'r gwaith animeiddio. Fe wnaethon nhw tua 2/3 ohono yn y pen draw. Mae elfennau eraill megis effeithiau arbennig a CGI (Computer Generated Images) wedi eu gwneud yn MPC yn Llundain.
Alli di ddweud wrthym am y gwahanol steil animeiddio a oedd eu hangen ar gyfer y sgript?
Syniad y sgript oedd i ddechrau gyda ffilm fyw o'r tri phrif gymeriad sy'n bodoli heddiw. Y syniad oedd i gymryd tri ffrind ifanc a fyddai'n ein harwain i fyd y Mabinogi. Mae ganddynt gonsyrn yn y byd iawn sy'n cael ei adlewyrchu gan rai o'r digwyddiadau yn y Mabinogi, felly roeddwn yn ymwybodol y byddai'n rhaid i ni gael golygfeydd byw i'n harwain i mewn i'r animeiddio. Dwi byth wedi bod yn ffan mawr o ffilmiau lle mae gennych fan lle mae dau steil yn cael eu cyfuno, felly roeddwn eisiau ymdrechu, os y gallwn, i gadw ychydig o gymhlethdod y byd iawn yn y byd animeiddedig. Felly, fe gymrais elfennau ffotograffaidd ac elfennau live action ac ychydig o elfennau CG a'u rhoi mewn byd animeiddio 2D. Mae llawer ohono wedi ei wneud yma, y rhan helaeth yn Photoshop ac yn rhannol ar ein cyfrifiaduron 'Animo', ond roedd llawer ohono, yn enwedig y deunydd 3D wedi'i wneud yn MPC. Dwi wedi gweithio â MPC am amser eitha' hir nawr. Fe wnaethon nhw yr holl waith effeithiau ar Gwr y Gwyrthiau, ac fe gymerasant yr holl beth ymlaen. Felly roedd rhan ohono, er enghraifft, yn gefndiroedd 3D. Y syniad oedd fy mod eisiau gallu symud y camera yn fwy nag arfer, er mwyn cael ychydig o wagle tri dimensiwn i mewn iddo. Felly fe adeiladwyd amgylchedd 3D a oedd yn seiliedig ar ein darluniau cefndirol a dyma beth arall roeddwn yn awyddus i drio ei gael i mewn i'r animeidddiad oedd golwg homogenaidd gyflawn. Roeddwn eisiau sicrhau nad oedd yr hyn roeddem yn ei weld yn rhoi rhyw fath o doriad i ni rhwng y cymeriadau sydd wedi eu hanimeiddio a'r cefndiroedd. Roeddwn yn awyddus iddynt oll gyd-fodoli, felly pan gawsom CG i mewn iddo a phan roddais ffotograffau ynddo, fe ddaeth i gyd at ei gilydd. Felly roedd elfennau manwl o'r cymeriadau yn y cefndir ac yn y blaen ac fe weithiodd i gyd. Felly, roedd yr hyn roedd yn rhaid i MPC ei wneud yn dasg eitha' anodd, sef gwneud i'r animeiddio cyfrifiadurol weithio gyda'r animeiddio 2D a'r cefndiroedd oedd wedi eu peintio.
NESAF
|