Alli di ein tywys ni drwy'r broses animeiddio gam wrth gam?
Y ffordd yr ydym yn gweithio'n gyffredinol yw unwaith mae'r sgript gennym a'n bod yn hapus gyda hi, byddwn yn dechrau gweithio ar y bwrdd stori. Weithiau, dwi'n gweithio â phobl eraill, weithiau fe wnaf fwrdd stori bras iawn o flaen llaw a gofyn i rywun glirio fe lan i mi, a dyma ddigwyddodd gyda Y Mabinogi. Fe ddechreuais drwy wneud bwrdd stori bras iawn ac yna gofynnais i bobl wneud iddo edrych yn neis.

Unwaith mae'r rhan yma wedi ei wneud, y cam nesaf yw recordio lleisiau'r actorion ac yna saethu'r bwrdd stori. Gwneir ychydig o baneli ychwanegol fel ein bod yn portreadu'r symudiadau sydd am ddigwydd. Yna, rydym yn saethu'r bwrdd stori fel ein bod yn gallu ei gyfuno â'r trac a'i weld yn gweithio fel delweddau a sain gyda'i gilydd, er mwyn cael teimlad cyffredinol o hyd y prosiect a lle mae deialog neu sgwrs yn digwydd. Yna mae hi'n gymharol hawdd i bennu ei hyd. Gyda rhannau lle fo rhywun yn dweud rhywbeth ac yna'n perfformio gweithred ac yna yn mynd ymlaen i ddweud rhywbeth arall, roedd yn rhaid i mi farnu yn union pa mor hir yr oedd y rhan hwnnw am ei gymryd a dyna lle mae'r elfen o amseriad yn dod i mewn ynghyd â chael y teimlad am ba mor hir y dylai'r olygfa fod a pha mor hir mae'r weithred am gymryd ayb. Felly, yr hyn a gawn ar y diwedd yw yr hyn â adwaenir yn "animatic" sef hyd cywir y ffilm gyda dim ond y ddeialog ynddo felly gallwn wylio hwn a chael teimlad o'r ffilm yn gyfan gwbl.

Unwaith mae hyn wedi'i wneud, rydym yn gwybod beth fydd hyd ein golygfeydd felly rhaid i ni dorri yr holl ffilm i olygfeydd unigol ac mae'r holl drac sain yn cael ei olygu fel ei fod i gyd yn bodoli ffrâm-wrth-ffrâm ar beth yr adwaenwn yn "bar charts". Pan fo'r animeiddwyr yn gwneud eu hanimeiddiad, maent yn defnyddio'r "bar charts" i ddadansoddi'n union pa lafariaid neu ffonemau sydd ar ba ffrâm er mwyn eu galluogi i wneud y "lip-synch" - gallant gael syniad o'r symudiadau a gwneud yr amseriad o hynny. Dyma pryd y cymerwn bob shot fel yr ydym wedi ei baratoi ac fe wnawn braslun ar ei gyfer sy'n golygu ein bod yn darlunio sgets bras gyda phensel o'r symudiad nad yw'n cynnwys, wrth gwrs, yr holl beth ynddo ond mae'n rhoi syniad i'r animeiddiwr o le mae'r cymeriad yn dod, lle mae'n mynd, beth mae'n ei wneud yn fras ac mae'n ffitio hynny i mewn i'r shot. Mae rhain yna yn mynd at yr animeiddwyr a maent yn gwneud fersiwn bras o'r animeiddiad cyn ei anfon yn ôl ataf er mwyn i mi gymryd golwg arno a gwneud sylwadau arno.

Unwaith mae gan yr animeiddwyr eu "bar charts" a'u blasluniau maent yn dechrau ar yr animeiddio craidd, sef y fersiynau bras iawn o bob shot. Efallai y caiff newidiadau eu gwneud, ond unwaith y maent wedi eu cymeradwyo byddant yn mynd at y cynorthwywyr fyddai'n clirio'r animeiddiadau craidd bras, ac yna byddant yn llenwi'r gwagleoedd, h.y. yr "in-betweens". Mae'r animeiddiadau craidd yn cael eu cyflwyno fesul wyth ffrâm fel rheol, er eu bod yn cael eu torri lawr i fwy os oes mwy o symudiadau mewn golygfa. Neu os yw'n eithriadol o gymhleth, byddai'r prif animeiddwr yn ei dorri i lawr eto. Weithiau mi fyddant yn rhoi "in-betweens" bras i mewn i ddangos i'r cynorthwywyr beth ddylai ddigwydd.

Yna, unwaith y caiff ei gymeradwyo, byddai'r cynorthwy-ydd yn ei gymryd ac yn ei 'lanhau' a'i roi ar y cymeriad ac i mewn i steil y darluniau. Yna byddai rhywun yn gwneud y darluniau "in-between" h.y. y darluniau rhwng pob set o animeiddiadau craidd. Pan fo'r rhain wedi eu cymeradwyo, fe anfonir hwy at Animo h.y. mae'r darluniau yn cael eu sganio mewn i'r cyfrifiadur ac maent yn cael eu peintio ar y cyfrifiadur a phan mae'r paentiadau wedi eu cymeradwyo, fe'u cyd-osodir gyda'r cefndir.

Ar y ffilm hon, mae gennym lwyfan ychwanegol sef lefel rendro. Mewn termau animeiddio darlunedig, mae hwn yn lefel o arliwio â phensel sy'n mynd ar ben y cymeriad ac yna gallwn ei "liwio" neu ei newid ef, a'r hyn y mae hyn yn ei wneud yw rhoi mwy o fanylder a dyfnder i'r cymeriad er mwyn priodi'r cymeriad yn well â'r cefndir.

Felly mae'r holl lefelau a haenau yma yn dod at ei gilydd yn y system "Animo". Maen nhw'n cael eu cyfuno gyda'r cefndir a 'dan ni'n rhoi "blurs" ar bethau. Fe allwn ni newid yr opacity fel eich bod yn gallu gweld trwy bethau> Mae ystod eang o effeithiau fydd yn cael eu dodi ac unwaith mae'r graffeg cyfrifiadurol yn dod i mewn hrfyd, mae'r cyfan yn dod ynghyd bryd hynny.

BLAENOROL     NESAF