Roedd Efnisien yn hanner brawd i Bendigeidfran, Branwen a Dan. Roeddent oll yn dod ymlaen yn dda gyda'i gilydd ac eithrio Efnisien. Llwyddai'r brawd treisgar hwn i achosi trafferth rhyngddynt hyd yn oed pan oeddent fwyaf cyfeillgar

Pan ddaeth Matholwch, brenin Iwerddon, draw i Gymru i ofyn i Bendigeidfran am law Branwen mewn priodas, cytunodd y cawr gan y byddai hyn yn arwain at heddwch rhwng y ddwy wlad. Ond ni ymgynghorodd gydag Efnisien ynglyn â'r penderfyniad ac fe deimlodd Efnisien fod hyn yn codi gwarth arno. Penderfynodd ddial ar y Gwyddelod trwy dorri gweflau, clustiau, cynffonnau ac amrannau eu meirch nes nad oeddynt yn dda i ddim.

I wneud iawn am hyn, rhoddodd Bendigeidfran ei drysor mwyaf gwerthfawr i Matholwch sef pair y dadeni oedd yn dod â milwyr yn ôl o farw i fyw. Gadawodd Matholwch Gymru yn eithaf hapus gyda'r fargen a drawyd, ond nid oedd y Gwyddelod yn teimlo i Bendigeidfran wneud iawn am y gwarth a godwyd ar Matholwch ac Iwerddon.

Fe gosbwyd Branwen, felly, am dair blynedd tan i Bendigeidfran ddod i glywed am y peth. Bu rhyfel waedlyd rhyngddynt a bu farw Efnisien yn y frwydr ar ôl aberthu ei hun trwy ymestyn ei gorff i dorri pair y dadeni yn ddarnau, a thrwy hynny dorri ei galon.