|
Roedd Gwydion yn ddewin deallus a phwerus. Un tro, roedd Math fab Mathonwy yn chwilio am wyryf a chynigwyd chwaer Gwydion, Arianrhod, ger ei fron. Gofynnwyd iddi gamu dros ffon hud, a disgynnodd baban allan ohoni oedd yn profi nad oedd yn wyryf. Fel yr oedd yn dianc o'r llys, disgynnodd rhywbeth llai allan ohoni wedyn, a chuddiodd Gwydion y peth hwnnw er mwyn arbed ychydig ar gywilydd ei chwaer. Rhoddodd Gwydion y peth hwnnw mewn cist yng ngwaelod ei wely. Cyn bo hir, clywodd sgrech o'r gist, ac yno yn edrych arno, roedd baban bach.
Magodd Gwydion y baban hwnnw fel pe byddai yn faban iddo ef ei hun, ac fe dyfodd y bachgen yn gryf ac iach. Un diwrnod aeth Gwydion a'r bachgen draw i Lys Arianrhod ac yno fe gyflwynwyd y bachgen i'w fam. Pan ddeallodd pwy ydoedd tyngodd na fyddai'r bachgen fyth yn cael enw, gwraig nac arfau.
Yn y blynyddoedd yn dilyn hynny llwyddodd Gwydion i dwyllo Arianrhod i roi enw i'r bachgen, Lleu Llaw Gyffes, ac arfau iddo, a chr‘wyd gwraig iddo allan o flodau, o'r enw Blodeuwedd.
|