Alli di ddweud beth yw dy rôl di yn Y Mabinogi?
Dwi'n chwarae rhan Bendigeidfran yn y stori ond dim ond yn rhan sydd wedi ei hanimeiddio y mae'n ymddangos. Mae Bendigeidfran yn gawr chwedlonol o ddyn ac fe'i gwelwn yn y stori yn defnyddio'r pwer hwnnw i helpu ei hun a'i frodyr i fynd i Iwerddon i ddial ar Matholwch sydd wedi alltudio eu chwaer yn forwyn.

Alli di grynhoi'r stori o ran perthynas a theulu?
Rydym ni, yma yng Nghymru, yn gyfarwydd iawn â'r stori hon ond dwi'n credu y bydd y stori yn trafeilio o amgylch y byd i gyd. Mae'r stori yn ymdrin ag ymgecru rhwng teuluoedd a theuluoedd estynedig a'r amddiffynoldeb sydd rhwng aelodau teuluoedd a'r teimlad o'r angen i achub cam ei gilydd. Dwi'n credu y gallwn ni gyd uniaethu â hyn mewn unrhyw ran o'r byd.

Mae'n siwr ei bod hi'n braf cael chwarae rôl Bendigeidfran?
Ydi. Dwi'n cofio astudio yr ysgrifau gwreiddiol Cymraeg ar gyfer fy Lefel A yn yr ysgol felly dwi'n gyfarwydd iawn â Bendigeidfran fel cawr chwedlonol. Roedd hi'n bleser cael dod a'r cymeriad mawr hwn yn fyw - er fy mod yn berson eitha main, roedd defnyddio llais i greu presenoldeb a rhyw fath o urddas yn hwyl.

Pryd wnes di ddod yn rhan o'r prosiect?
Fe ddes i'n rhan o'r prosiect nôl ym 1998. Yn wreiddiol, roeddwn yn chwarae rhan Bendigeidfran gan ddefnyddio sgript heb ddelweddau nac ychwaith unrhyw animeiddio ac yna fe aeth yr animeiddwyr yn eu blaenau i'w greu dros y bedair mlynedd ddiwethaf. Mae hi'n eitha' rhyfedd ei weld bedair mlynedd yn ddiweddarach oherwydd mae fy llais wedi newid ychydig a dwi'n credu fod yr acen yn llawer iawn cryfach, yr acen Gymraeg pan recordiais ef yng Nghymru o'i gymharu â phan roeddwn yn ei recordio yn Llundain. Mae hi'n hynod ddiddorol gweld sut roedd fy llais bryd hynny a sut mae wedi newid wedi i mi fod lan fan hyn.

Pa fath o sialens yw hi i actor weithio mewn ffordd mor dechnegol?
Mae hi'n broses unigryw mewn gwirionedd. Fel actor, rydych yn gyfarwydd â defnyddio eich corff a'ch wyneb a gweld eich hun, ond gyda Y Mabinogi roeddech yn cyflwyno cymeriad â oedd wedi ei greu yn barod a rhaid oedd rhoi bywyd i'r cymeriad hwnnw drwy gyfrwng y llais. Roedd yn rhaid i mi weithio mewn bwth - lle cyfyng iawn - a defnyddio'm holl gorff gan ddychmygu fy hun fel y cymeriad a cheisio dynwared y cymeriad gyda'm symudiadau ond dim ond y llais, wrth gwrs, sy'n cael ei recordio - felly, mi roedd e'n brofiad ddigon rhyfedd!

Pryd welaist ti'r animeiddiad am y tro cyntaf a beth yw dy ymateb i'w weld ef nawr?
Nid oeddwn wedi gweld dim o'r animeiddiad pan recordiais ef. Recordiais y cymeriad o'r sgript yn unig. Roeddwn wedi fy syfrdanu ei weld unwaith eto ac yn falch iawn o gael bod yn chwarae rôl cawr mawr, cryf a golygus felly roedd hyn yn eitha' neis mewn gwirionedd, gan wybod mai fy llais i oedd yn portreadu'r cymeriad hwnnw. Mae'n edrych yn wych a dwi'n edrych ymlaen iddo gyrraedd y sgrîn fawr.