Fedri di ddisgrifio i ni sut y daethost i'r prosiect hwn?
Clywais son fod prosiect Cyngor Celfydydau Cymru ar y gweill h.y. ffilm wedi'i seilio ar y Mabinogi a dwi'n cofio'r Mabinogi o'u hastudio yn yr ysgol. Be dwi'n cofio amdanynt yn yr ysgol oedd eu bod yn gallu golygu unrhywbeth yr ydych eisiau iddynt wneud ... dyna hwyl y Mabinogi. Ond roedd ceisio ffitio fo i gyd mewn i ffilm yn ymddangos fel job a hanner felly roeddwn i'n awyddus gweld sut yr oeddwn nhw'n bwriadu cynnwys nhw i gyd.
Felly beth yn union oedd eich briff?
I ysgrifennu'r sgôr ar gyfer ffilm wedi'i hanimeiddio. Roeddwn i'n gwybod fod hyn yn mynd i fod yn job fawr oherwydd gyda animeiddio, yn wahanol i ffilmiau confensiynol, mae angen cerddoriaeth drwyddi draw. Felly roedd rhaid penderfynu o'r dechrau os roeddem yn mynd i ysgrifennu melodiau ar gyfer pob cymeriad. Darllenais y sgript ond arhosais nes bod y gels wedi'u gwneud cyn dechrau ar y cerddoriaeth. Un peth yn y ffordd yr oedd y ffilm wedi'i greu oedd yn gwneud pethau'n haws i mi oedd bod y deialog yn "locked in stone", felly doedd dim byd yn newid yn fan 'na, felly roedd yr amser oedd ar gael i greu personoliaeth neu i danlinellu unrhywbeth yn benodol drwy'r amser. Felly beth bynnag dechreuais i gyda, wrth i ni agosau at y dyddiad i wneud y recordiad, dim ond newidiadau bychain oedd angen eu gwneud. Ond roeddwn i eisiau cael cymysgedd o be bynnag yr oeddwn yn gallu o 'hip-hop' ynddi yn ogystal â sgôr rhamantus felly roedd yna ffyrdd arbennig roeddwn i'n gallu recordio. Roeddwn i'n recordio'r llinynnau ar wahân i'r chwythbrennau a'r offerynnau pres er mwyn cael dipyn bach o hyblygrwydd ac o fewn Dolby 5.1 mae gen ti mwy o le i ychwanegu 'effects'. Os oes gen ti'r gerddorfa i gyd mewn un 'stafell mae'n anodd iawn gwahanu'r seiniau - mae rhywbeth sy'n digwydd mewn un lleoliad yn effeithio rhywle arall, felly aethom ati mewn ffordd 'modiwlar' er mwyn cael mwy o annibyniaeth a rheolaeth dros y darnau.
Gan taw hwn yw dy brofiad gyntaf o weithio gyda animeiddio, pa mor wahanol oedd hi o gymharu gyda dy brosiectau eraill?
Rwyt ti'n dechrau dyibynnu lot ar y golau. Roedd peth o'r ffilm wedi gorffen, doedd rhai darnau heb eu gorffen, doedd peth ohoni heb ddychwelyd o Foscow, felly pan wyt yn gweithio gyda darluniau pencil neu darluniau llinell, wrth i bethau symud ymlaen, rwyt ti'n cael mwy o liw ac yn dechrau sylweddoli pa mor bwysig yw hi i orffen y golygfa. Er enghraifft gall olygfa min nos fod yn oleuach nag yr oeddet yn disgwyl iddi fod. Dwi'n credu bod yr hyblwygrwydd ti'n cael gyda stiwdios recordio a deunyddiau cynhyrchu modern yn agor i fyny bydysawd newydd o bethau rwyt ti eisiau eu gwneud.
Fedri di son am dy brofiad o weithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru
Un o'r pethau dwi 'di i sylwi arno yw'r ffordd mae pethau wedi symud ymlaen, sef yn gyflym iawn o'r amser es i a'r sgôr i Gaerdydd a'i recordio gyda'r cerddorfa. Mae gen i beth profiad o weithio gyda cherddorfeydd a pha mor annifyr yw gweithio ar rywbeth ar wahân e.e. i'r chwythbrennau fod yna heb y llinynnau, ond fe cafodd ei wneud yn dda iawn. Rydym wedi cael canlyniadau hyfryd o'r gerddorfa ac mae'n swnio fel miliwn o ddoleri a dwi'n meddwl fod gennym ni dîm rhagorol yma. Trodd y stiwdio yng Nghaerdydd (Air Studios) yn 'cockpit' awyren - roedd pawb yn eistedd ac yn syllu ar rifau ac yn gweiddi rhifau at ei gilydd ac roedd gennym ni lwyth o waith i wneud mewn tridiau ond fe weithiodd hi allan yn dda.
Wrth edrych yn ôl at dy ddyddiau ysgol a'r gwersi cynnar ar y Mabinogi dy brofiad o weithio ar y ffilm nawr, sut maen hynny wedi lliwio dy ymateb i'r storiau?
Dwi'n meddwl taw'r Mabinogi yw yn un o'r pethau hynny sy'n gallu mynd i unrhywle ac mae'r ffilm yma yn mynd i ryw lefydd diddorol iawn, mae 'na lwyth o bethau ôl-niwclear diddorol, cynodiaid modern, ond dwi'n meddwl bod yna dal i fod lot fawr yn y Mabinogi.
Fedri di ddisgrifio beth sydd wedi mynd ymlaen yn Air Studios?
Wedi dod yma gyda tîm oedd, yn fy marn i, yn rhagori mewn un peth arbennig, pan wyt ti'n dod i Air Studios ti'n ffeindio tîm sy'n dda ar gyfer gwneud rhywbeth arall. Dwi'n cofio Air pan roeddent yn Oxford Circus a dwi'n credu taw ysbryd y lle sy'n helpu iti weithio. Mae'r bobol yma i gyd yn 'fyw': maen nhw'n gerddorion ac yn bobol dechnegol ar yr un pryd a roeddwn i wedi anghofio popeth amdani wedi treulio blynyddoedd yn Efrog Newydd ond roedd hi'n anhygoel gweithio yma.
Wyt ti'n gweld dy hun yn gweithio ar brosiect animeiddio arall yn y dyfodol?
Wrth gwrs, pam lai? Yn amlwg maen nhw'n sialens, mae gen ti wahanol haenau a gwahanol bethau i ystyried e.e. dyw'r elfen ddramatig ddim yr un peth o weithio gyda pobol go iawn.
Wyt ti'n hapus gyda dy ran di o'r brosiect?
Dwi'n meddwl bod y sgôr yn swnio'n hyfryd, dwi'n hapus iawn gyda'r gwaith ges i gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru a'r arweinydd Chris - mae o 'di gwneud job ardderchog - felly dwi'n meddwl bod hi wedi troi allan yn arbennig o dda.
|