|
Alli di sôn am y cymeriad rwyt yn ei chwarae?
Dwi'n chwarae rhan Arianrhod sy'n golygu "rhodd arian", a hi yw mam Lleu. Mae hi'n rhoi genedigaeth iddo mewn modd cyhoeddus iawn a chanddi gywilydd mawr am hyn. Oherwydd hyn, mae hi'n gwrthod ei phlentyn yn gyfangwbl ac yn rhoi tair melltith arno na fydd byth ganddo enw, na fydd arfau ganddo i ryfela nac ychwaith y bydd hi'n bosib iddo briodi merch feidrol. Mae Gwydion, y 'dewin', sef brawd Arianrhod, yn cymryd Lleu, sydd yn ddienw ar y pryd, ac yn ei fagu fel plentyn ei hun. Yna, mae'n twyllo Arianrhod i roi enw iddo, i roi arfau iddo ac yn creu gwraig iddo. Mae Arianrhod yn ddynes galed iawn. Mae hi wedi chwerwi, a dwi'n credu fod hyn wedi ei wreiddio yn y cywilydd sydd arni o roi genedigaeth o dan amgylchiadau cyhoeddus iawn...mae'r chwerwder a'r creulondeb yn ei phoenydio am byth. Mae hi hefyd yn ddynes ryfelgar; mae ganddi gorff yn ogystal â meddwl cryf iawn - mae ganddi weledigaeth wrywaidd iawn o'r byd, ond dynes addfwyn yw hi oddi mewn sydd wedi ei brifo gan yr hyn sydd wedi digwydd iddi.
Fel actores, sut wnest ti fynd ati i'w dehongli?
Yr hyn sy'n rhyfedd am wneud gwaith fel hyn yw bod yn rhaid dechrau recordio'r llais heb unrhyw ddelweddau ar y cychwyn ac yna pedair mlynedd yn ddiweddarach fe welwn y delweddau. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i weld yr holl ddelweddau. Mae hi'n ddiddorol oherwydd roedd rhaid ail-wneud rhai darnau oherwydd fod y llais gwreiddiol â recordwyd yn rhy feddal pan welwyd y delweddau. Mae hi'n awr yn edrych fel ei bod hi wedi bod yn ymarfer corff yn y gym - mae ganddi bâr da o freichiau! Hefyd y ffordd y darluniwyd y delweddau...y wynebau hir - maent yn edrych yn eitha' caled felly roedd rhaid newid y llais i gydfynd â hynny. Felly, ydi, mae hi'n ffordd ddiddorol o weithio, mae hefyd yn rywbeth sy'n cymryd dipyn o amser i wneud oherwydd fod cymaint o waith canolbwyntio - ar y llun, y llais, y 'lip-synch' ac mae'n rhaid i chi geisio actio'r cymeriad hefyd sef yr un peth sy'n hawdd iawn i'w anghofio weithiau!
Rwyt ti wedi bod yn ymwybodol o'r storiau ers amser hir...beth yw dy obeithhio ar gyfer y ffilm ar lwyfan rhyngwladol?
Mae'r storiau yn rai nes i dyfu lan â nhw fel plentyn, storiau fel Blodeuwedd (fy hoff stori yn blentyn), a dwi'n credu ei bod hi'n ffantastic y bydd gweddill y byd yn cael dysgu am storiau hynafol a phrydferth.
|