Roedd Lleu yn fab i Arianrhod, ond oherwydd cywilydd Arianrhod am y modd y daeth Lleu i'r byd wedi iddi honni ei bod yn wyryf, gwrthododd roi enw, arfau na gwraig iddo ac fe gafodd Lleu ei fagu gan ei ewythr, Gwydion.

Yn y cyfnod hwnnw, dim ond mam oedd â'r hawl i roi'r tri pheth hynny i blentyn, ond drwy ddefnyddio hud a lledrith i'w thwyllo, llwyddodd Lleu i gael enw ac arfau, a chr‘wyd merch iddo allan o flodau, Blodeuwedd.

Fodd bynnag, ni fu Blodeuwedd yn wraig ffyddlon i Lleu. Gyda'i chariad, yr heliwr Gronw Pebr, rhoddodd ergyd farwol i Lleu, a'i droi yn eryr oedd ar dir rhwng byw a marw am flynyddoedd cyn i Gwydion ei achub, a'i drawsnewid yn ôl i ffurf dynol.

Gwnaeth Gwydion ddial ar Blodeuwedd drwy ei throi yn dylluan, sef creadur y nos yr oedd yr holl adar eraill yn ei chasáu, a lladdwyd Gronw Pebr i wneud iawn am yr hyn a wnaeth i Lleu.