![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
Mae'r adran hon yn cynnwys cyfweliadau gyda rhai o'r actorion sy'n trosleisio'r cymeriadau yn y ffilm, ynghyd ag aelodau o'r tîm creadigol oedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r ffilm a'i cherddoriaeth.
Mae'r ffilm 'Y Mabinogi' wedi cymryd bron i bum mlynedd i'w chynhyrchu, ac mae'n ffrwyth cydweithio unigryw rhwng darlledwyr, cwmnïau cynhyrchu, cwmnïau cyfleusterau a chwmnïau animeiddio o wledydd mor bell i ffwrdd â Bwdapest a Mosgo. Trefnwyd y gerddoriaeth gan John Cale, gynt o'r grwp Velvet Underground, ar y cyd â Cherddorfa Genedlaethol Cymru. Ymhlith yr enwau adnabyddus sydd wedi cyfrannu i'r ffilm mae Ioan Gruffudd (Hornblower, The Forsyte Saga), Matthew Rhys (cynhyrchiad llwyfan The Graduate), Jenny Livsey, Daniel Evans, Phillip Madoc, Rhys Ifans (Notting Hill) a Paul McGann (Withnail and I). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||